16
Mai

Hyfforddiant Diogelu Uwch – Diogelu Plant 16/05 + 17/05 – Y Drenewydd

17 tocynnau ar ôl £55

Ar gyfer aelodau Mudiad Meithrin sy’n dal y swyddi canlynol: Arweinydd y lleoliad • Rheolwyr • Y person â chyfrifoldeb • Gwarchodwyr plant • Y person diogelu dynodedig • Unigolion cyfrifol • Y person cofrestredig

Mae’r cwrs hwn yn cyd-fynd â gofynion y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer unigolion Grŵp C.

Cwrs lefel uwch yw hwn ar gyfer helpu unigolion i gynyddu’r wybodaeth am brosesu diogelu sydd ganddynt eisoes, ac i ddeall y broses ddiogelu yn fanylach. Mae’n gwrs dau ddiwrnod.

Bydd yr hyfforddiant yn defnyddio amrywiaeth o weithgareddau i helpu adolygu a datblygu’r gweithdrefnau diogelu yn y lleoliad i sicrhau bod pob aelod o staff yn gallu cyflawni eu rôl a’u cyfrifoldeb i ddiogelu plant.

Mae’r cwrs yn cynnwys:

  • pynciau sy’n ymwneud â honiadau o gam-drin yn erbyn aelod o staff a sut i ddelio â’r rhain,
  • deall deddfwriaeth a chanllawiau allweddol sy’n sail i bolisi lleoliadau ynghylch diogelwch a lles plant,
  • rolau i’w cyflawni yn y broses diogelu plant aml-asiantaeth, gan gynnwys cynadleddau achos
  • darparu adroddiadau ysgrifenedig.

Pris yn cynnwys cinio. Ni roddir ad-daliadau am fethu a mynychu. Bydd tystysgrif electroneg i bawb sy’n cwblhau’r hyfforddiant.

 

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben.


Hyfforddiant Diogelu Uwch – Diogelu Plant 16/05 + 17/05 - Y Drenewydd

  • Dyddiad Cau: 2024-05-16
  • Amser: 10:00 - 14:30
  • Lleoliad: Cwrs wyneb yn wyneb
  • Cyfeiriad: Gwesty The Elephant and Castle, Y Drenewydd SY16 2BQ