Amcan Mudiad Meithrin yw creu siaradwyr Cymraeg newydd drwy’r system gofal plant ac addysg Gymraeg yn ogystal â thrwy raglenni cefnogi rhieni amrywiol gan roi cyfle i bob plentyn ddod yn siaradwr Cymraeg hyderus. 

Rhown groeso gofalus i’r hyn sydd wedi ei chynnwys yn Bil y Gymraeg ac Addysg, gan bwysleisio datgan ein cefnogaeth i flaenoriaethu addysg cyfrwng Cymraeg a’r dull trochi iaith. 

Yn benodol, nodwn: 

  • fod sicrhau cyswllt clir rhwng y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg a’r prosesau ar gyfer cynllunio ar gyfer twf (ac felly creu galw ychwanegol) am addysg statudol a gwasanaethau blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg yn hanfodol.   
  • yr angen am ymrwymiad clir gan Lywodraeth Cymru i dyfu’r gweithlu addysg a’r gweithlu blynyddoedd cynnar sydd a’r sgiliau iaith angenrheidiol i ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg a gwella deilliannau ieithyddol ein holl blant.     
  • bwysigrwydd y blynyddoedd cynnar ar ddechrau’r continwwm ieithyddol, yn enwedig o ran cyfathrebu a chefnogi rhieni a gofalwyr ar ddechrau eu taith addysg Gymraeg.  Lle ceir hyder yn y blynyddoedd cynnar – ceir hyder naturiol yn yr iaith wrth symud ymlaen ar eu taith ieithyddol drwy’r ysgol.    
  • ein bod yn croesawi’r pwyslais sydd yn y Bil ar bwysigrwydd gweithio gyda rhieni er mwyn medru cefnogi teuluoedd, a hefyd cymunedau ehangach, i drosglwyddo’r Gymraeg yn y gymuned ac yn y cartref.   
  • ein bod yn croesawi bod y Bil yn cyfeirio’n benodol at bennu targedau ar gyfer cynyddu darpariaethau addysg Gymraeg a chynyddu nifer y bobl sy’n dysgu Cymraeg gan hefyd gynnig diffiniad statudol, cenedlaethol, o addysg Gymraeg am y tro cyntaf.      
  • bwysigrwydd sicrhau bod cynyddu darpariaeth Cymraeg ysgolion a lleoliadau blynyddoedd cynnar yn cael ei gynllunio yn ofalus ochr yn ochr ag adnabod sgiliau ieithyddol y gweithlu, a chynllunio gwybodus ar gyfer meithrin a datblygu sgiliau Cymraeg ar draws y sectorau gofal ac addysg yng Nghymru er mwyn osgoi sgil-effeithiau anfwriadol gall godi heb ystyried y continwwm yn ei chyfanrwydd.    
  • ein bod, fel Mudiad, o’r farn y dylai pob ysgol newydd a sefydlir fod yn ysgol benodedig cyfrwng Cymraeg. Byddai hyn yn normaleiddio addysg cyfrwng Cymraeg ym mhob cymuned ac yn cyfrannu’n sylweddol tuag at greu a chynyddu’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg ym mhob cymuned ar draws Cymru.   
  • fod cysoni mesuriadau hyfedredd Cymraeg yn gam pwysig ymlaen ac yn hwyluso prosesau recriwtio, ac yn gymorth wrth gynllunio ar gyfer gwella sgiliau iaith gydol oes.  Bydd angen cynnwys manylion am sgiliau lefelau’r CEFR1 mewn ffordd hawdd i’w ddeall i unigolion nad sydd wedi arfer ei ddefnyddio er mwyn sicrhau llwyddiant y weledigaeth hon.      
  • fod y weledigaeth o sefydlu un corff cenedlaethol (Yr Athrofa) i gynnal goruchwyliaeth strategol yn ffordd o annog cyfleoedd cydweithio rhwng y gwahanol sectorau addysg yn galonogol.    Byddai hyn yn ein galluogi (gyda chyfraniad ariannol ychwanegol) i ehangu i feysydd fel hyfforddi’r gweithlu addysg, gan rannu adnoddau ac arferion da ar draws sectorau ac yn adeiladu ar arbenigeddau presennol y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.  

Hyderwn fod gan Mudiad Meithrin a’i chymuned ehangach (Cylchoedd a meithrinfeydd) gyfraniad pwysig i’w wneud at y gwaith o dderbyn buddsoddiad ychwanegol.

Gallwch ddarllen ein hymateb ysgrifenedig llawn yn y ddogfen isod. 

Ymateb ysgrifenedig fel PDF – yn Gymraeg yn unig.