Fel mudiad sy’n angerddol am roi’r cyfle i bob plentyn elwa o brofiadau blynyddoedd cynnar o safon uchel a llawn hwyl rydym wrth ein boddau yn cyhoeddi’r enillwyr a ddaeth i’r brig yn ein Seremoni Gwobrau a gynhaliwyd yn yr Ysgubor, Fferm Bargoed, Aberaeron ddydd Sadwrn diwethaf (12 Hydref).

Bwriad y seremoni yw cydnabod a dathlu’r gwaith da sy’n cael ei wneud ar lawr gwlad yn y Cylchoedd Meithrin, Cylchoedd Ti a Fi a’r meithrinfeydd dydd ac fe gyflwynwyd y seremoni mewn modd slic a phroffesiynol iawn gan y cyflwynydd teledu Iola Wyn.

Meddai Leanne Marsh, Pennaeth Datblygu Gwasanaethau Mudiad Meithrin:

“Roedd y Seremoni Gwobrau yn ffordd hyfryd o godi proffil y gweithlu a lleoliadau blynyddoedd cynnar gan ddangos pa mor bwysig yw’r gwasanaeth yma i’r gymuned leol ac i’r economi’n gyffredinol. Cafwyd dros 500 o enwebiadau eleni ac mae’n ffordd hyfryd i staff a gwirfoddolwyr gael eu cydnabod trwy gael eu henwebu gan rieni’r plant sy’n eu gofal.”

Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:

“Mae’r Seremoni Gwobrau’n rhoi cyfle inni ddod at ein gilydd i ddathlu, cydnabod a diolch i’n staff a’n gwirfoddolwyr ar lawr gwlad am yr holl waith gwych sy’n digwydd ar hyd a lled Cymru. Mae codi proffil gweithlu’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru yn allweddol i ddenu a recriwtio mwy o weithwyr i’r sector gofal plant – yn enwedig drwy gyfrwng y Gymraeg – a dangos i gynulleidfa ehangach beth yw’r buddion o weithio mewn maes sydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau plant bach Cymru.

I wylio fideos o’r holl enillwyr cliciwch yma. Isod mae lluniau o’r holl enillwyr ar y diwrnod.

Gwirfoddolwr - Cynrychiolydd ar ran Michelle Davies, Cylch Meithrin Cylch yn yr Ysgol, Powys
Cylch i Bawb - Cylch Meithrin Pwllheli
Dysgwyr y Flwyddyn - Staff Cylch Meithrin Awel y Mynydd, Conwy
Cynorthwy-ydd Erin Williams, Cylch Meithrin Bro Alun, Wrecsam
Ardal Chwarae a Dysgu Tu Allan Meithrinfa Gogerddan, Ceredigion
Pwyllgor Cylch Meithrin Garn Bach Tryweryn, Gwynedd
Meithrinfa Ddydd Meithrinfa Twts Tywi, Sir Gâr
Arweinydd Kim Jones, Cylch Meithrin Pwllheli, Gwynedd
Dysgu a Datblygu Cylch Meithrin Ffrindiau Bach Tegryn, Ceredigion
Cylch Meithrin Bach Cylch Meithrin Cilfynydd a Phont Norton, Rhondda Cynon Taf
Cylch Ti a Fi Cylch Ti a Fi Hwlffordd, Sir Benfro
Cylch Meithrin Talaith y De-Ddwyrain Cylch Meithrin Y Gurnos, Merthyr Tudful
Cylch Meithrin Talaith y Gogledd-Orllewin, Cylch Meithrin Y Gorlan Fach, Tremadog, Gwynedd
Cylch Meithrin Talaith y De-Orllewin, Cylch Meithrin Hermon, Sir Benfro
Cylch Meithrin Talaith y Gogledd-Ddwyrain Cylch Meithrin Bro Alun, Wrecsam
Cylch Meithrin Cymru Cylch Meithrin Bro Alun, Wrecsam