11
Maw

Cyfres o Sesiynau DARPL i YMARFERWYR Gofal Plant, Chwarae a’r Blynyddoedd Cynnar

0 tocynnau ar ôl Am ddim

Cyfres o Sesiynau DARPL i Ymarferwyr Gofal Plant, Chwarae a’r Blynyddoedd Cynnar

Addas i: Holl aelodau Mudiad Meithrin

Mae cyfres dysgu proffesiynol DARPL i ymarferwyr Gofal Plant, Chwarae a’r Blynyddoedd Cynnar yn cynnwys tair sesiwn sy’n dadbacio gwrth-hiliaeth ac yn archwilio camau y gellir eu gweithredu mewn lleoliadau gofal plant, gwaith chwarae, gwarchod plant ac addysg blynyddoedd cynnar.

Mae’r gyfres hon yn archwilio effaith hiliaeth ar les a bywydau pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig eraill a materion a allai effeithio’n andwyol ar blant ifanc a’u teuluoedd.

Mae’n bwysig bod gwrth-hiliaeth yn cael ei yrru’n weithredol yn ein harferion proffesiynol bob dydd, er mwyn sicrhau bod pob lleoliad gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar yn effeithio ar newid a gwelliant cadarnhaol.

Mae’r sesiynau byw hyn yn cynnig lle i rannu meddyliau, cynnig arweiniad a chael thrafodaeth gyda’r cyflwynwyr a’r cyfoedion sy’n mynychu.

Trwy archebu lle, rydych yn ymrwymo i fynychu’r gyfres gyfan (sef 3 sesiwn) ar y dyddiau canlynol:

11, 18 a 25 Mawrth 2025.

Bydd y 3 sesiwn hyn yn rhedeg o 6:30-8:30pm bob tro.

*Sesiynau trwy gyfrwng y Gymraeg


Cyfres o Sesiynau DARPL i YMARFERWYR Gofal Plant, Chwarae a'r Blynyddoedd Cynnar

  • Dyddiad Cau: 2025-03-11
  • Amser: 18:30 - 20:30
  • Lleoliad: Ar-lein