Hyfforddiant Diogelu Oedolion sy’n Wynebu Risg
Hyfforddiant Diogelu Oedolion sy’n Wynebu Risg
gyda Paul Jones, Gweithiwr Cymdeithasol Annibynnol a hyfforddwr profiadol
Addas i: Staff Cylchoedd Meithrin / Meithrinfeydd Dydd / Arweinyddion Ti a Fi /aelodau pwyllgorau a gwirfoddolwyr
O dan arweiniad Paul Jones, bydd yr hyfforddiant hwn yn cynnig trosolwg o beth yw diogelu, mathau o gamdriniaeth, wynebu risg, caethwasiaeth fodern, dyletswydd ATAL, ac iechyd a lles meddyliol. Bydd cyfle i drafod enghreifftiau o sefyllfaoedd go iawn.
Ar ddiwedd y cwrs fe fyddwch yn:
- Deall gweithdrefnau newydd Diogelu Cymru a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
- Adnabod mathau gwahanol o gamdriniaeth ynghyd â’r arwyddion
- Deall mwy am gaethwasiaeth fodern, dyletswyddau ATAL, ynghyd ag iechyd a lles meddyliol
- Hyderus i fedru cofnodi a chyfeirio lle’n briodol, a defnyddio Polisi Diogelu Mudiad Meithrin
- Gwybod pryd i gyfeirio oedolyn mewn risg heb ei ganiatâd.
Cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg
Hyfforddiant Diogelu Oedolion sy’n Wynebu Risg
- Dyddiad Cau: 2025-01-30
- Amser: 13:00 - 16:00
- Lleoliad: Ar-lein