Yn ôl i'r rhestr swyddi
Gwybodaeth Gyffredinol

Lleoliad: Ysgol Moelfre, Moelfre, Ynys Môn. LL72 8HA

Mae Cylch Meithrin Moelfre yn chwilio am Arweinydd ymroddgar, cydwybodol, brwdfrydig a chyfeillgar i arwain pob agwedd o waith yn y Cylch.

Rhaid bod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn siaradwr newydd sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg.

Os rydych yn ymarferwr Blynyddoedd Cynnar Lefel 3 neu uwch gyda phrofiad perthnasol, ac rydych yn chwilio am gyfle cyffrous i roi eich stamp chi ar gylch Meithrin newydd sbon, rydym yn eich annog i gwblhau cais ar gyfer y rôl unigryw yma.

Os ydych chi'n mwynhau her newydd ac wrth eich bodd yn gweithio gyda phlant, efallai mai dyma'r cyfle perffaith i chi.

 

Manylion y Swydd

Cyflog: £16.00 yr awr

Oriau: Isafswm o 30 awr yr wythnos - Dydd Llun – Dydd Gwener 9:00-15:00

Manylion cymwysterau

Blynyddoedd Cynnar Lefel 3 neu uwch gyda phrofiad perthnasol,

Gwybodaeth Ychwanegol

Gyrrwch CV neu ffurflen gais at cylchmeithrinmoelfre@gmail.com er mwyn gwneud cais.

Person cyswllt am ragor o wybodaeth a manylion cysylltu :

Rachel Skinner cylchmeithrinmoelfre@gmail.com

Catrin Regan catrin.regan@meithrin.cymru

Fydd cyfweliadau yn cymryd lle yn ystod mis Chwefror.

Rydym yn gobeithio fydd y cylch yn agor yn fuan yn ystod mis Ebrill 2025.

Dyddiadau Pwysig

Dyddiad Cau: 06/02/2025