#cynhadledd25dysgusylfaen

13 Mawrth 2025

10yb – 3.30yp (Cofrestriadau yn dechrau am 9:30yb)

Canolfan Medrus, Prifysgol Aberystwyth, Campws Penglais, Aberystwyth, SY23 3BY

Addas i: Ymarferwyr Cylchoedd Meithrin a meithrinfeydd dydd, staff Mudiad Meithrin, athrawon ac athrawon ymgynghorol dysgu sylfaen, aelodau CWLWM a chydweithwyr y sector gofal ac addysg feithrin.

Ymunwch â ni yn ein cynhadledd arbennig yn Aberystwyth. Yn dilyn llwyddiant ein cynadleddau blaenorol yng ngogledd a de Cymru, eleni rydym yn cynnal ein cynhadledd yn y canolbarth. Ymunwch â ni am ddiwrnod lle mae arbenigwyr blaenllaw, addysgwyr ac ymarferwyr yn dod i archwilio’r diweddaraf mewn addysg plentyndod cynnar.

Byddwn yn cychwyn y diwrnod gyda’n siaradwr gwadd:

 

Connor Allen

 

Yn ei gyflwyniad bydd Connor yn trafod y llwybr datblygu Perthyn. Bydd yn archwilio sut olwg sydd ar berthyn; sut y gallwn ddatblygu ymdeimlad o berthyn ym mhob plentyn, a pha mor bwysig yw bod plant ifanc yn teimlo eu bod yn perthyn.

 

Ar ôl y brif araith bydd cyfle i ymuno â dau weithdy. Bydd pawb yn cael cyfle i gymryd rhan ymhob gweithdy. Dyma’r gweithdai fydd ar gael:

 

‘Effaith perthyn’ gyda Connor Allen (Saesneg)

Gweithdy personol, rhyngweithiol yn archwilio’r cwestiwn, ‘Beth mae’n ei olygu i fod yn perthyn?’

Wrth edrych ar effeithiau cadarnhaol a negyddol o berthyn, gyda’n gilydd byddwn yn dod i’r casgliad pam fod ymdeimlad o berthyn mor bwysig a hanfodol i blant ac oedolion.

 

‘Perthyn trwy gysylltiad, natur a hunan-reoleiddio’ (Cymraeg gyda chyfieithu ar y pryd) – yn eu gweithdai bydd Nia a Nia o gwmni ‘Y Pethau Bychain’ yn:

  • Edrych ar beth yw perthyn
  • Dysgu sut mae hunan-reoleiddio a natur yn cefnogi iechyd meddwl plant ifanc
  • Archwilio sut mae perthyn yn hyrwyddo tegwch, cydraddoldeb, ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol i blant ADY a phlant o gefndiroedd amrywiol
  • Cynnig strategaethau ymarferol i gyfranogwyr eu defnyddio yn eu lleoliadau.

 

 

 

 

‘Dewch i Ddathlu’ (Cymraeg gyda chyfieithu ar y pryd) gyda Helen Roberts – yn dilyn llwyddiant y cyhoeddiad gwreiddiol gan Helen Roberts a Thîm Dysgu Sylfaen Mudiad Meithrin, rydym wedi diweddaru’r adnodd poblogaidd hwn i gyd-fynd â’r cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir a’r llwybrau datblygu. Yn ei gweithdy, bydd Helen yn archwilio sut i gyflwyno plant ifanc i wahanol grefyddau a diwylliannau mewn ffordd ddilys, heb fod yn docynistaidd. Bydd yr adnodd newydd yn cael ei lansio yn ystod y gweithdy hwn.

Wedi toriad cinio, bydd cyfle i chi gymryd rhan mewn un gweithdy arall.

 

 

 

 

 

I gloi’r diwrnod, fe fydd Molly Necrews o Feithrinfa Ddydd Wibli Wobli yn siarad â ni am les ac iechyd meddwl ei staff. Bydd yn archwilio strategaethau ar sut i gefnogi a meithrin iechyd meddwl a lles staff, gan greu amgylchedd gwaith cadarnhaol, cynaliadwy a meithringar.

Mae’r diwrnod cyfan am ddim! Edrychwn ymlaen at eich croesawu yn Aberystwyth.

 

 

 

I gofrestru, cliciwch yma.

Dyddiad cau i gofrestru: 14 Chwefror 2025