#archwiliortuallan

29 Ebrill 2025 – Plas Menai, Caernarfon, LL15 1UE

30 Ebrill 2025 – Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, SY23 3DE

1 Mai 2025 –      Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Llanarthne, SA32 8HN

 

10.00 – 15.30 – Darperir cinio a lluniaeth drwy gydol y dydd.

Addas ar gyfer: Ymarferwyr Cwlwm (Blynyddoedd Cynnar Cymru, Mudiad Meithrin, NDNA, Pacey Cymru), ymarferwyr mewn ysgolion ac athrawon ymgynghorol blynyddoedd cynnar.

Dros dridiau ym mis Ebrill a mis Mai, yng ngogledd, canolbarth a de Cymru, byddwn yn archwilio’r cyfleoedd diddiwedd a gynigir i ni yn yr awyr agored. Ymunwch â ni i ddysgu, rhannu a mwynhau – beth bynnag fo’r tywydd!

Byddwn yn dechrau’r diwrnod gyda’n prif siaradwr:

Ben Kingston Hughes

Mae Ben yn hyfforddwr arobryn a bydd yn rhoi cyflwyniad difyr sy’n ysgogi’r meddwl ar chwarae egnïol, mentro a chymryd risg yn yr awyr agored. Bydd Ben yn edrych ar bwysigrwydd cynnig profiadau awyr agored i blant ifanc, ymhob tywydd. Bydd e’n egluro sut y gallwn fod yn hyderus wrth gynyddu chwarae egnïol a heriol yn ein hamgylcheddau, ac felly rhoi’r profiadau chwarae bywiog sydd eu hangen ar blant i ffynnu.

 

Yna, bydd cyfle i fynychu tri gweithdy gwahanol drwy gydol y dydd. Bydd y gweithdai’n cael eu cynnal y tu allan gymaint â phosibl (bydd cysgod os yw’r tywydd yn wael.) Bydd pob gweithdy’n archwilio profiadau dilys a phwrpasol y gallwn eu cynnig i’n plant. Yn ymuno â Ben i gyflwyno gweithdai bydd Dr Glenda Tinney, Uwch Ddarlithydd yn y Sefydliad Addysg a’r Dyniaethau ym Mhrifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant a Kayleigh Bickford, Swyddog Gweithredu’r Cwricwlwm, Cwlwm.

 

       

      Dr Glenda Tinney                     Kayleigh Bickford

 

 

Gweithdy 1 – Chwarae allan, chwarae’n wyllt – (Yn Saesneg) Bydd Ben yn cyflwyno gweithdy awyr agored fydd yn gyfle i ni brofi’n uniongyrchol y mathau o brofiadau chwarae awyr agored y gallwn eu cynnig i’r plant fydd yn eu herio, yn cynnwys elfen o risg, ac yn cynnig cyfle iddynt fod yn egnïol.

Gweithdy 2 Creu amgylchedd effeithiol – (Yn Gymraeg gyda chyfieithu ar y pryd) Bydd Glenda yn archwilio pa adnoddau a phrofiadau y gallwn eu cynnig i’n plant mewn amgylchedd awyr agored naturiol. Bydd hi’n cyflwyno’r posibiliadau o gynnig adnoddau a dodrefn wedi’u hailgylchu a’u hailbwrpasu a fydd yn effeithiol, yn rhad ac yn garedig i’r amgylchedd.

Gweithdy 3Beth yw darnau rhydd? (Yn Gymraeg gyda chyfieithu ar y pryd) Ymunwch â Kayleigh am sesiwn ymarferol a hwyliog a darganfod beth yw darnau rhydd, a pham eu bod yn adnoddau pwysig i blant yn eich amgylcheddau!

 

I gloi’r diwrnod, bydd cyfle i rwydweithio a thrafod gyda chydweithwyr.

Bydd y diwrnod cyfan yn rhad ac am ddim, ac edrychwn ymlaen at eich gweld.

 

I gofrestru, dewiswch y lleoliad mwyaf cyfleus i chi a chliciwch ar y ddolen isod:

29ain Ebrill Plas Menai, Caernarfon – archebu lle

30ain Ebrill Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth – archebu lle

1af o Fai Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Llanarthne – archebu lle

 

Dyddiad cau i gofrestru – 04 Ebrill 2025