Y bobl sy’n rhan o gymuned y Cylch Ti a Fi sy’n gwneud Cylch Ti a Fi da.

Wrth feddwl am gychwyn Cylch Ti a Fi byddai’n ddoeth ymchwilio i weld a oes gwasanaethau tebyg yn cael eu cynnal yn yr ardal, ac a ydynt yn boblogaidd ai peidio, er mwyn osgoi gwrthdaro. Yn ogystal, rydym yn annog pob Cylch Ti a Fi i wneud cyswllt â’r Cylch Meithrin lleol, ysgol Gymraeg leol ac unrhyw grwpiau Cymraeg i Blant sy’n rhedeg yn yr ardal.

Isod mae dogfennau defnyddiol i’ch cynorthwyo wrth ddechrau a datblygu Cylch Ti a Fi. Mae Cydlynydd Cefnogi Cylchoedd ar gael yn eich ardal chi er mwyn eich cefnogi ar hyd y daith.