02
Hyd

Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

18 tocynnau ar ôl Am ddim

Gyda Ceri Ward a Hannah Jones rheolwyr Meithrinfa Rachael’s Playhouse, sydd wedi’i lleoli yn Hirwaun, Aberdâr.

Addas i: Staff Cylchoedd Meithrin / Meithrinfeydd Dydd / aelodau Cwlwm

Yn dilyn eu sesiwn flaenorol yn ystod y gwanwyn, bydd Ceri a Hannah yn trafod mwy ar eu strategaethau i gefnogi plant ag ADY, gan rannu syniadau ymarferol megis amserlennu gweledol, matiau stompio ac ardaloedd tawel. Byddant hefyd yn ateb cwestiynau a godwyd o’r sesiwn gyntaf ar sut i ddelio ag ymddygiad heriol.

Sesiwn Saesneg.

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben.


Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

  • Dyddiad Cau: 2025-10-02
  • Amser: 18:30 - 20:00
  • Lleoliad: Ar-lein