Chwarae gyda Dŵr – tu hwnt i’r twba dŵr!
Gyda Charlotte Thrussell, rheolwr Cylch Meithrin Bro Alun
Addas i: Staff Cylchoedd Meithrin / Meithrinfeydd Dydd / aelodau Cwlwm
Mae plant Cylch Meithrin Bro Alun wrth eu boddau yn chwarae gyda dŵr – yn ogystal â bod yn y dŵr, ar y dŵr ac o dan y dŵr! Dewch i glywed Charlotte Thrussell yn sôn am y 10 profiad mwyaf poblogaidd mae Cylch Meithrin Bro Alun yn eu cynnig i’r plant. Bydd Charlotte yn esbonio pam fod cynnig profiadau chwarae gyda dŵr mor bwysig i blant bach ac yn rhannu syniadau cyffrous â chi!
Sesiwn Cymraeg *gyda chyfieithu ar y pryd
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben.
Chwarae gyda Dŵr - tu hwnt i’r twba dŵr!
- Dyddiad Cau: 2025-09-25
- Amser: 18:30 - 19:30
- Lleoliad: Ar-lein