10
Hyd

Cyflwyniad CAREDIG- Bethesda

0 tocynnau ar ôl Am ddim

Gyda Samantha Day, Tiwtor Asesydd Lefel 5 Cam wrth Gam

Addas i: Staff Cylchoedd Meithrin a Myfyrwyr Cam wrth Gam.

Cyflwyniad CAREDIG – mae’n cyflwyno dulliau therapiwtig i gefnogi plant sy’n gweld a phrofi’r byd yn wahanol neu sydd wedi profi trawma.

Bwriad y gweithdy hwn yw gwella dealltwriaeth ynglŷn â’n hymateb ni fel ymarferwyr, yr amgylchedd corfforol ac emosiynol – a sut gall hyn effeithio ar y plentyn yn emosiynol ac yn gorfforol.

Yn ystod y sesiwn bydd cyfle i feithrin dealltwriaeth a sgiliau i ddeall beth sy’n digwydd a beth all helpu yn ystod cyfnod o ymddygiad heriol, a beth allwn ni ei wneud i leddfu ymddygiad heriol yn yr hir dymor.

Bydd yr hyfforddiant yn rhoi sylw i’r materion canlynol:

  • Gor-bryder
  • Amgylcheddau addas
  • Ffenest goddefgarwch
  • Prosesau synhwyraidd
  • Rheoleiddio emosiynol…a mwy.

Sesiwn Cymraeg.


Cyflwyniad CAREDIG- Bethesda

  • Dyddiad Cau: 2025-10-10
  • Amser: 10:00 - 15:00
  • Lleoliad: Canolfan Cefnfaes, Bethesda, LL57 3AD
  • Cyfeiriad: Canolfan Cefnfaes, Bethesda, LL57 3AD