Hyfforddiant Diogelu Canolradd- Diogelu Plant (Grŵp B) – Ar-lein
Hyfforddiant ar-lein gyda Jane Ashman
Mi fydd yr hyfforddiant yn cael ei gyflwyno ar 2 ddiwrnod ar wahân, bydd angen i gyfranogwyr fynychu’r ddau ddiwrnod er mwyn cwblhau’r hyfforddiant.
- 12 a 19 Mai 2026
- 10:15yb – 2yp
Cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae’r cwrs ar gyfer aelodau Mudiad Meithrin sydd yn:
- Gynorthwywyr meithrin dan hyfforddiant
- Cynorthwywyr meithrin
- Arweinyddion ystafelloedd meithrin
- Rheolwyr cynorthwyol
- Gweithwyr chwarae
- Gyrwyr
- Gwirfoddolwyr
Mae’r cwrs hwn yn cyd-fynd â gofynion y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer unigolion Grŵp B.
Mae’r cwrs hwn ar gyfer pob ymarferydd sydd a chysylltiad rheolaidd â phlant. Efallai bod gennych eisoes peth wybodaeth ynglŷn â’r maes ond bod angen datblygu eich dealltwriaeth ymhellach ac i fod yn ymwybodol o’r camau y dylid eu cymryd pan fo pryderon yn codi ynglŷn â lles plant.
Erbyn diwedd y cwrs byddwch yn:
- Deall eich rôl i ddiogelu plant rhag niwed, camdriniaeth ac esgeulustod
- Deall sut y caiff plant eu diogelu rhag niwed, camdriniaeth ac esgeulustod
- Adnabod mathau gwahanol o gamdriniaeth, niwed ac esgeulustod yn cynnwys trais yn y cartref
- Dysgu am ddeddfwriaeth a gweithdrefnau ar gyfer diogelu lles plant a phobl ifanc a gwybod beth ydi’r newidiadau diweddar i ddiogelu yn sgil y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
- Deall effaith hir dymor camdriniaeth ar blant
- Ystyried y gwersi a ddysgwyd o achosion bywyd go iawn, lle mae cam-drin wedi digwydd mewn lleoliadau gofal plant.
*Cyn dilyn y cwrs hwn, argymhellir eich bod yn dilyn modiwl E-Ddysgu Diogelu Gofal Cymdeithasol Cymru (awr o hyd) ar-lein: https://gofalcymdeithasol.cymru/modiwlau-dysgu/grwp-a-diogelu
Pris y cwrs: £30
Bydd tystysgrif electroneg i bawb sy’n cwblhau’r hyfforddiant.
Hyfforddiant Diogelu Canolradd- Diogelu Plant (Grŵp B) - Ar-lein
- Dyddiad Cau: 2026-05-12
- Amser: 10:15 - 14:00
- Lleoliad: Ar-lein