Lleoliad: YSGOL I D HOOSON , HEOL CARADOG , RHOSLLANERCHRUGOG
Mae’r Cylch Meithrin yn chwilio am arweinydd ymroddgar, cydwybodol, brwdfrydig a chyfeillgar i arwain pob agwedd o waith y Cylch
Mae Cylch Meithrin ID Hooson yn gylch newydd ers Medi 2024 yn dilyn cyfuniad dwy gylch meithrin lleol. Rydym yn chwilio am reolwr ymroddgar, arloesol, cydwybodol, brwdfrydig a chyfeillgar i arwain pob agwedd o waith y Cylch.
Mae Cylch Meithrin ID Hooson yn chwarae rhan atodol i addysg gynnar Gymraeg yn Rhosllannerchrugog a’r fro. Gyda newidiadau cyffrous ar y gorwel i’r Cylch, rydym yn chwilio am reolwr brwdfrydig gyda pharodrwydd i gynnig syniadau ac i arwain y Cylch trwy’r newidiadau cyffrous sydd ar y gweill. Mae’n gyfle gwych i unigolyn sy’n dymuno cael hyfforddiant uwch gyda gofal plant a chael cyfle i greu awyrgylch ac ethos arbennig gydag addysg gynnar. Mae cydweithio agos rhwng y Cylch a’r ysgol a bydd parhau â’r bartneriaeth hon yn cryfhau ein holl darpariaethau gofal plant a hefyd yn sicrhau bod ein plant yn cael y dechrau gorau posibl. Os hoffech chi fod yn rhan o’r bennod newydd gyffrous hon, cysylltwch a dewch i’n gweld. Mae cefnogaeth a chydweithio cryf rhwng pawb sydd yn gysylltiedig â’r Cylch felly byddwch chi’n rhan o dim cefnogol ehangach.
Gofynnir am gymhwyster blynyddoedd cynnar cydnabyddedig addas ar Lefel 3 i gychwyn, (gyda’r bwriad, os yn fodlon, i hyfforthi ar gyfer lefel 5,) ynghyd â phrofiad perthnasol i gymryd gofal o Gylch. Dylai ef/hi fod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn ddysgwr sydd wedi cyrraedd lefel da â’r iaith.
Dim cymhwyster? Mae gyda ni gyrsiau Gofal Plant sy’n addas i ti, clicia yma am fwy o wybodaeth.
Cyflog: £15 yr awr
Oriau: 32.5 awr yr wythnos - 5 diwrnod
Gofynnir am brofiad a chymhwyster blynyddoedd cynnar cydnabyddedig ar lefel 3 neu uwch. Bydd cyfle i dderbyn hyfforddiant ar gyfer cymhwysterau lefel 5 fel rhan o’r swydd
I drefnu ymweliad ac am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: jonesd106@hwbcymru.net neu 01978 832950
Dyddiad Cau: 27/02/2026
Dyddiad Cyfweliad: 02/03/2026
| Diwrnod | Bore | Prynhawn |
| Dydd Llun | 9.00-15.00 | |
| Dydd Mawrth | 9.00-15.00 | |
| Dydd Mercher | 9.00-15.00 | |
| Dydd Iau | 9.00-15.00 | |
| Dydd Gwener | 9.00-15.00 |