Gweler y swydd ddisgrifiad am fwy o fanylion am y swydd.
Lleoliad: Sir Fflint
Am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â:
Ceri Edwards, Rheolwr Talaith
Rhif Ffôn: 01970 639639
E-bost: ceri.edwards@meithrin.cymru
Gwneud Cais:
Gellir gwneud cais am y swydd drwy lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a ffurflen cydraddoldeb ac amrywiaeth, gweler isod.
Dychwelwch y ffurflenni yma at adnoddaudynol@meithrin.cymru
Cyflog: MM15: £24,200 y.f. pro rata (Gwir gyflog: £2,420 y.f.)
Oriau: 5 awr yr wythnos
Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch. Oherwydd hyn, ynghyd â diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, gwrywaidd ac o’r Mwyafrif Byd-eang.
Dyddiad Cau: 02/03/2026