Mae cynllun hyfforddiant Mudiad Meithrin, Cam wrth Gam, sydd yn hyfforddi dros 100 o fyfyrwyr y flwyddyn mewn cymhwyster blynyddoedd cynnar, ar fin cychwyn cyfnod newydd dan raglen grant newydd gan Lywodraeth Cymru.
Mae hyn yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru heddiw taw Mudiad Meithrin fydd yn arwain ar brosiect Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol am y tair blynedd nesaf.
Mi fydd Mudiad Meithrin yn defnyddio’r grant i greu cynllun hyfforddi a chymhwyso staff gan adeiladu ar arbenigedd y Mudiad o dan raglen hyfforddi Cam Wrth Gam.
Sefydlwyd Cam wrth Gam yn wreiddiol dros ugain mlynedd yn ôl i ddarparu hyfforddiant a chymhwyster blynyddoedd cynnar cydnabyddedig i greu gweithlu cymwys i weithio yn y Cylchoedd Meithrin a meithrinfeydd dydd ledled Cymru. Ers 2004, mae dros 4,000 o bobl wedi derbyn cymhwyster trwy’r cynllun.
Dan y rhaglen grant newydd mi fydd Mudiad Meithrin yn anelu i hyfforddi a chymhwyso 300 o fyfyrwyr newydd erbyn 2028.
Wrth gyhoeddi’r rhaglen newydd, dywedodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden:
“Mae gan Mudiad Meithrin hanes hir o hyrwyddo a chefnogi darpariaeth blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg, ac mae Llywodraeth Cymru yn falch o weithio gyda nhw i gyflwyno Rhaglen Hyfforddiant Genedlaethol Cam Wrth Gam.
“Bydd y rhaglen bwysig hon yn cefnogi ein huchelgais i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg drwy ehangu argaeledd staff gofal plant medrus a hyderus sy’n siarad Cymraeg ledled Cymru.”
Ychwanegodd Prif Weithredwr Mudiad Meithrin, Dr Catrin Edwards,
“Fel mudiad cenedlaethol sy’n cael ei gydnabod fel ‘arbenigwyr y blynyddoedd cynnar’ yng Nghymru a thu hwnt, mae sicrhau gweithlu cymwys, gyda sgiliau yn y Gymraeg, i weithio yn y blynyddoedd cynnar yn un o flaenoriaethau strategol Mudiad Meithrin.
“Rydym yn falch bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod y gwaith mae’r Mudiad yn ei wneud i gryfhau’r sector blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg, ac rydym yn falch o’r parhad yn eu buddsoddiad wrth i raglen Cam wrth Gam dderbyn grant am y tair blynedd nesaf i arwain Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol. Mae’r Mudiad yn edrych ymlaen at ddarparu’r hyfforddiant yma er mwyn cryfhau ein gweithlu gan godi hyder, gwybodaeth a sgiliau o fewn y gweithlu blynyddoedd cynnar.”
Mae Cam wrth Gam yn cynnig cyrsiau sy’n galluogi myfyrwyr i ennill cymhwyster Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant a Lefel 5 Arwain a Rheoli Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae myfyrwyr yn dysgu o dan arweiniad staff arbenigol ac yn cael profiad dydd i ddydd gyda phlant bach.
Yn siarad am ei phrofiad o gyflawni cwrs Cam wrth Gam, dwedodd Delyth Griffiths o Gylch Meithrin Glantwymyn,
“Rydw i’n mwynhau dysgu pethau sydd yn wirioneddol bwysig ar gyfer fy swydd mewn Cylch Meithrin. Mae’r cwrs yma yn fy nghyflwyno at hanfodion sydd eu hangen arnaf ar gyfer cychwyn plant ar eu taith addysgol.”