Yn dilyn cyhoeddi pecyn cymorth Creu Diwylliant Gwrth-hiliol mewn Lleoliadau (gan DARPL a CWLWM), dyma gyflwyniad fideo gan Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin ac un o awduron y pecyn.

Bydd y fideo yn rhoi canllawiau i chi ynghylch pwrpas y pecyn hwn a sut i’w ddefnyddio.

Nod y pecyn yw cefnogi’r rheini sy’n gweithio ym maes gofal plant, y blynyddoedd cynnar a chwarae yng Nghymru i greu amgylchedd gwrth-hiliol yn eu lleoliad, gan gynnig cyngor am ddulliau gwrth-hiliol o arwain a llywodraethu lleoliad, meithrin perthynas â rhieni a gofalwyr, i greu amgylchedd gynhwysol a datblygu eich ymarfer ac addysgeg.

I ddechrau’r cyflwyniad, cliciwch yma. Dyma recordiad o sesiwn a gyflwynwyd ar 27 Ebrill 2025.

Mae mwy o wybodaeth ddefnyddiol ar ein tudalen mewnrwyd Hil ac ethnigrwydd hefyd.