Newyddion Cenedlaethol | 11 Mai 2026

Cyrraedd carreg filltir: 100fed Cylch Meithrin o dan gynllun SAS

Mae cynllun Sefydlu a Symud Mudiad Meithrin (SAS) wedi cyrraedd carreg filltir bwysig sef croesi trothwy ei 100fed ddarpariaeth gofal plant.

Mae’r cynllun wedi cynyddu i 103 o ddarpariaethau gofal plant, yn dilyn agor Meithrinfa Wibli Wobli yng Nghaerdydd ac ehangu Cylch Meithrin Llan y Pwll a Cylch Meithrin Bod Alaw.

Mae cynllun SAS yn deillio o raglen waith #Cymraeg2050 ac yn ymateb Mudiad Meithrin i’r Strategaeth Iaith yn y ddogfen #MeithrinMiliwn. Dechreuodd y cynllun ym mis Ebrill 2018 gyda’r nod o sefydlu 150 o ddarpariaethau erbyn 2028.

Mae cynllun SAS wedi esblygu o agor Cylchoedd Meithrin newydd yn unig i gynnwys dulliau eraill i gynyddu faint o ofal plant cyfrwng Cymraeg sydd ar gael, megis:

  • cefnogi Cylchoedd Meithrin i ehangu capasiti a gwasanaethau
  • rhoi cefnogaeth iaith i ddarpariaethau dwyieithog sydd â’r gallu a’r awydd i droi yn ddarpariaeth trochi cyfrwng Cymraeg – Cynllun Plethu – mewn partneriaeth gyda Blynyddoedd Cynnar Cymru a Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs ble bo hynny’n berthnasol

Mae’r cyfanswm o dros gant o ddarpariaethau a gefnogwyd drwy’r cynllun yn cynnwys cymysgedd o Gylchoedd Meithrin newydd, Cylchoedd Meithrin sydd wedi ehangu, a darpariaethau gofal plant sydd yn rhan o Cynllun Plethu.

Dywedodd Sali Edwards, Prif Swyddog Sefydlu a Symud, Mudiad Meithrin:

“Wrth ddathlu llwyddiant cynllun SAS i basio’r carreg filltir o ddatblygu 100 o Gylchoedd Meithrin, hoffwn gydnabod cyfraniad holl aelodau pwyllgorau gwirfoddol, aelodau staff y cylchoedd, aelodau staff y Mudiad a phartneriaid eraill sydd wedi cyfrannu tuag at pob un o’r 100.

Mae cymaint o waith ac yn mynd i fewn i ddatblygu Cylch Meithrin hefyddyn ogystal â’i gynnal unwaith mae ar agor. Mae’r cynllun wedi parhau trwy’r pandemig byd eang ac argyfwng costau byw, ac yn edrych ymlaen i gefnogi mwy o gymunedau i ddatblygu gofal plant cyfrwng Cymraeg wrth i 9fed blwyddyn y cynllun gychwyn yn mis Ebrill 2026.”

Mae cynllun SAS yn parhau i gefnogi twf darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y blynyddoedd cynnar, ac yn cyfrannu at y nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.