10 Profiad Gorau… yn yr Awyr Agored!
10 Profiad Gorau… yn yr Awyr Agored!
Gyda Sian Owen, Arweinydd Cylch Meithrin Y Gorlan Fach, Tremadog
Addas i: Aelodau Mudiad Meithrin a Cwlwm
Mae’r plant yng Nghylch Meithrin Y Gorlan Fach yn treulio’r rhan fwyaf o’u hamser yn yr awyr agored — yn chwarae, yn dysgu ac yn mwynhau. Ymunwch â ni ar gyfer y sesiwn ysbrydoledig hon lle bydd Sian yn rhannu ei 10 profiad awyr agored gorau, a’r effaith bwerus sydd gan y rhain ar ddatblygiad y plant.
Bydd Sian yn trafod sut mae’r plant yn:
- Dysgu drwy archwilio’r awyr agored a phrofiadau ymarferol
- Ffynnu wrth gymryd risgiau a datblygu annibyniaeth
- Datblygu ymdeimlad cryf o berthyn a Chynefin drwy gysylltiadau ystyrlon â’u hamgylchedd.
Sesiwn yn Gymraeg *gyda chyfieithu ar y pryd
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben.
10 Profiad Gorau… yn yr Awyr Agored!
- Dyddiad Cau: 2026-10-15
- Amser: 18:30 - 20:00
- Lleoliad: Ar-lein