13
Hyd

Creadigrwydd yn yr Awyr Agored: Ymgysylltu Meddyliau Ifanc â Byd Natur

60 tocynnau ar ôl Am ddim

Creadigrwydd yn yr Awyr Agored: Ymgysylltu Meddyliau Ifanc â Byd Natur

o dan arweiniad y fenter greadigol Dwylo Bach a Leisa Mererid

Addas i: Aelodau Mudiad Meithrin

Dewch i ddarganfod sut i ysbrydoli plant drwy greadigrwydd yn yr awyr agored. Bydd y sesiwn hon yn dangos sut i gysylltu â natur drwy anadlu, arsylwi a chwarae synhwyraidd sy’n agor y drws i feddwl yn fwy creadigol.

Byddwn yn trafod sut i:

  • Greu cysylltiad naturiol sy’n meithrin ymwybyddiaeth a meddylgarwch
  • Greu gofodau awyr agored deniadol sy’n gwahodd plant i archwilio a chwarae’n rhydd
  • Arsylwi chwarae plant mewn amgylcheddau naturiol
  • Ddod â natur dan do i barhau’r profiad.

Sesiwn yn Gymraeg *gyda chyfieithu ar y pryd.


Creadigrwydd yn yr Awyr Agored: Ymgysylltu Meddyliau Ifanc â Byd Natur

  • Dyddiad Cau: 2026-10-13
  • Amser: 18:30 - 20:00
  • Lleoliad: Ar-lein