Mae Sir Benfro yn barod i ddisgleirio yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni wrth i blant y Cylchoedd Meithrin lleol gamu i’r sgrin fawr gyda ffilm fer arbennig: Trysorau Bach Penfro. Bydd y ffilm yn cael ei dangos am y tro cyntaf ar ddydd Sul, Awst 2il am 3 o’r gloch yn yr Emporiwm (Pentre Plant), ac mae croeso cynnes i bawb ddod i’r dangosiad.

 

Meddai Gwenno Haf Jones, Arweinydd Prosiect Sianel Dewin a Doti:

“Mae tîm Sianel Dewin a Doti wedi bod yn brysur yn mwynhau antur o amgylch Sir Benfro, gan ymweld â thros 150 o blant bach yn rhai o’r Cylchoedd Meithrin ar draws y sir. Roedd gweld y plant yn mwynhau cwrdd â Dewin a bod yn rhan o’r ffilm yn wirioneddol arbennig. Diolch o galon i’r holl Gylchoedd Meithrin am eu croeso cynnes. Mae Trysorau Bach Penfro yn llawn hwyl, lliw a chreadigrwydd, gydag animeiddiadau hyfryd sy’n dod â’r antur yn fyw. Bydd y ffilm yn cael ei dangos ar Sianel YouTube Dewin a Doti yn syth ar ôl y première arbennig yn yr Eisteddfod fel y gall pawb ei mwynhau.”

 

Yn y ffilm, mae Dewin a Doti yn teithio o amgylch sir Benfro gan ymweld â golygfeydd godidog y sir a gan chwilio am ‘drysorau bach Penfro’ yn y Cylchoedd Meithrin. Ar eu taith, maen nhw’n cwrdd â phlant sy’n canu, yn chwarae ac yn croesawu Dewin a Doti i ymweld â’u Cylch Meithrin lleol nhw gan ddangos bod y Gymraeg yn fyw ym mhob cornel o’r sir.

 

Yn ogystal â dangosiad arbennig o’r ffilm, bydd gorymdaith liwgar o deuluoedd lleol a staff yn cario baneri Cylchoedd Meithrin yn cael ei chynnal ar y maes am 1.45 gan ddiweddu wrth lwyfan y maes lle bydd sioe Jambori Meithrin (a drefnir gan Mudiad Meithrin) yn cael ei gynnal i ddiddanu’r plant a’u teuluoedd ym mhresenoldeb y Welsh Whisperer!

 

Meddai Iola Jones, Pennaeth Cyfathrebu a Phartneriaethau Mudiad Meithrin:

“Mae Dewin a Doti wedi mwynhau teithio ar hyd a lled Sir Benfro ac wedi cael croeso mawr wrth ymweld â rhai o’r Cylchoedd Meithrin yno. Mae’r plant i gyd wedi bod wrth eu boddau yn cwrdd â Dewin ac mae yntau wedi bod wrth ei fodd yn gweld yr holl blant yn canu a dawnsio a mwynhau’r profiad o fod yn sêr y sgrin!

Yn ogystal â hyn mae nifer o’r cylchoedd wedi bod yn creu arddangosfeydd bach o’r Eisteddfod gyda’r plant, ac wedi bod yn brysur yn creu baneri lliwgar i’w cario i fod yn rhan o’r orymdaith ar faes yr Eisteddfod bnawn Sul i ddathlu addysg Gymraeg yn yr ardal.”

 

Bydd croeso i bob plentyn a’i deulu fydd yn yr Eisteddfod ar y dydd Sul i ymuno yn yr orymdaith ar hyd y maes, i fwynhau’r sioe ar y llwyfan ac i ddod i weld y ffilm yn yr Emporiwm.