Lleoliad: YSGOL GYMRAEG MORSWYN , FFORDD CYTTIR , CAERGYBI. LL65 2PU
Rydym yn chwilio am ymarferydd gofal plant gofalgar, brwdfrydig a dibynadwy i ymuno â’n tîm, gan ofalu am blant rhwng 2 ac 11 oed.
Rhaid bod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn ddysgwr sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg.
Mae’r rôl yn golygu darparu amgylchedd diogel, meithringar a symbylol lle gall plant ddysgu, chwarae a datblygu.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi trefniadau dyddiol y plant, yn trefnu gweithgareddau hwyliog a deniadol, yn annog ymddygiad cadarnhaol, ac yn hyrwyddo datblygiad emosiynol, cymdeithasol a chorfforol y plant.
Cyflog: Isafswm cyflog
Oriau: 33 awr dros 5 diwrnod / Trwy gydol y flwyddyn
Gofynnir am brofiad a chymhwyster blynyddoedd cynnar cydnabyddedig ar o leiaf Lefel 2 i ofalu am blant.
Manylion cyswllt ar gyfer mwy o wybodaeth ynglyn a’r swydd:
Miss Stacey Lloyd
Ebost: mirimorswyn@gmail.com Rhif ffon: 01407 765781
Dyddiad Cau: 04/12/2026
| Diwrnod | Bore | Prynhawn |
| Dydd Llun | 8.00-17.30 | |
| Dydd Mawrth | 8.00-17.30 | |
| Dydd Mercher | 8.00-17.30 | |
| Dydd Iau | 8.00-17.30 | |
| Dydd Gwener | 8.00-17.30 |