Hwre, ti wedi gorffen y cwrs. Llongyfarchiadau

Mae Sioe Dewin a Doti yn teithio o amgylch Cymru yn ystod mis Mehefin i gyflwyno sioe arbennig i blant bach Cymru.

Mae Sioe Dewin a Doti yn ŵyl deithiol sy’n digwydd bob blwyddyn ar hyd a lled Cymru. Dyma gyfle gwych i weld Dewin a Doti mewn sioe sy’n llawn o ganeuon, dawnsio a hwyl i blant bach sy’n mynd i’n Cylchoedd Meithrin a Meithrinfeydd dydd.

Dewch a’r daith o gwmpas Cymru gyda Dewin, Doti a’n ffrind newydd – y Welsh Whisperer!

Sioe iaith Gymraeg, yn addas ar gyfer siaradwyr Cymraeg newydd.  Addas i blant 0 – 7 oed a’u teuluoedd.

Fe fydd holl fanylion y daith a sut i gael eich tocynnau ar gael yn fuan.

Dyma’r dyddiadau, amseroedd a lleoliadau – manylion archebu tocynnau i ddilyn yn fuan.

 

Dyddiad

 

Lleoliad

 

Amseroedd y sioe

Mehefin / June 4 Fferm Ymddiriedolaeth Amelia, Y Bari 10:15, 11:30, 1:15
Mehefin / June 5 Canolfan Llys y Fran 9:30, 11:00
Mehefin / June 11 Pontio, Bangor 10.00, 11.30, 1.30
Mehefin / June 12 Neuadd Dwyfor 10:00, 12:30
Mehefin / June 18 Neuadd y Sir Dinbych 10:00, 1:15
Mehefin / June 19 Tŷ Pawb, Wrecsam 10:00, 1:15
Mehefin / June 20 Y Plas, Machynlleth 10.00,11.30, 1.30
Mehefin / June 25 Gerddi Botaneg 10:30, 11:30, 1:00
Mehefin / June 26 Moody Meadows, Aberaeron 10.00, 11.30, 1.30
Gorffennaf / July 2 Ysgol Ystalyfera 10:00, 11:15
Gorffennaf / July 3 Theatr Glan yr Afon, Casnewydd 10.00, 11.30, 1.30

Ewch draw i Spotify er mwyn gwrando a chanu holl ganeuon y sioe!