Cyflwyniad i’r Mabinogi

 

‘Pedair Cainc y Mabinogi’ ydi’n straeon hynaf ni yma yng Nghymru – mae ysgolheigion yn credu eu bod o leiaf 800 mlynedd oed.

Mae pedair chwedl yn rhan o’r ‘Pedair Cainc’. Mae nhw’n straeon hir a chymhleth a sawl stori o fewn un chwedl. Mae’r awdures Anni Llŷn wedi dewis rhannau bach o’r straeon i’w haddasu i’w gwneud yn addas i’w cyflwyno i blant bach yn ein Cylchoedd Meithrin a meithrinfeydd dydd.

Mae Cyflwyniad i Oedolion ar gael sef ‘Dewin a’r Mabinogi’ ac awgrymwn eich bod yn cyflwyno’r sleidiau yma’n gyntaf i egluro beth yw’r

Mabinogi i’r plant.

Rydym wedi cyflwyno’r straeon Pwyll a Rhiannon, Branwen, Manawydan a Blodeuwedd, ynghyd a’r Cyflwyniad i Oedolion mewn 2 fformat – gallwch ddewis lawrlwytho’r straeon unigol ar ffurf PDF a gweithgareddau i gyd-fynd â phob chwedl, neu gallwch wylio fideo o animeiddiad syml o’r stori gyda throslais.

“Mae’n braf gweld cyfleoedd newydd a dulliau digidol newydd i ledaenu straeon pwysig y Mabinogi ar gyfer cenhedlaeth newydd o Gymry.”
(Dyfyniad gan Eleri Llewelyn Owen, Rheolwr Prosiect y Gymraeg, Consortia Addysg Cymru)

 

Mwynhewch y Mabinogi!

 

Cyflwyniad                     Pwyll a Rhiannon

      

                       

 

Branwen                       Manawydan

              

 

Blodeuwedd                    

   

    

Lawrlwythwch y PDF’s ar gyfer y Chwedlau a’r Gweithgareddau isod:

Rydyn ni’n angerddol am wneud pob Cylch a meithrinfa ddydd yn lefydd lle mae pawb yn perthyn, yn ddiogel ac yn wrth-hiliol. Tybed ydych chi’n gwybod beth yw gwrth-hiliaeth a pham ei bod hi’n bwysig i chi wreiddio arferion gwrth-hiliol yn eich lleoliad?

Lle da i ddechrau deall mwy am hyn yw’r cyrsiau hunan-astudio isod sydd wedi eu datblygu gan DARPL (Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-Hiliol) a CWLWM.

Mae’r hyfforddiant hwn wedi ei hanelu at ymarferwyr. Rydym yn argymell bod unrhyw un sy’n gweithio ym maes Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar yn dilyn y gyfres, er mwyn deall a dysgu sut gall arferion niweidio plant Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ynghyd â’n cefnogi i symud tuag at arfer gwrth-hiliol.

I gychwyn y cyflwyniad cyntaf yn y gyfres, cliciwch yma.

I gychwyn yr ail gyflwyniad, cliciwch yma.

I gychwyn y cyflwyniad olaf, cliciwch yma.

Mae’r adran Dysgu Sylfaen (Cyfnod Sylfaen) wedi datblygu’r adnodd hyfforddi yma i’ch cefnogi i ddeall egwyddorion y cwricwlwm newydd, beth mae hyn yn ei olygu i’ch lleoliad, eich ymarferwyr a’r profiad ‘rydych chi’n ei gynnig i’ch plant. Adnodd hunan astudio yw hwn gan Vanessa Powell, Arweinydd Cwricwlwm, Dysgu Sylfaen. Gwyliwch yr adnodd mewn cyfarfod staff, cyfarfod pwyllgor neu yn eich amser eich hun.

I lawrlwytho eich copi, cliciwch yma 

 

Beth mae bod yn lleoliad cynhwysol yn ei olygu a sut mae rhoi hynny ar waith?

Ni ddylai chwarae cynhwysol fod yn rhywbeth arbennig y byddwn yn ei drefnu ar gyfer rhai plant penodol. Yn hytrach dylai gael ei weld fel dull effeithiol o ddarparu cyfleoedd chwarae ystyrlon a safonol i bob plentyn. Mae bod yn gynhwysol yn golygu mwy na dim ond dangos ymwybyddiaeth o anghenion arbennig, mae hefyd yn galw arnom i feithrin gwerthfawrogiad o gefndiroedd diwylliannol, crefyddol a chymdeithasol amrywiol y plant.

Mae’r cyflwyniad ar-lein hwn yn addas i bob ymarferydd sy’n ymwneud â lleoliad gofal plant ac addysg blynyddoedd cynnar mewn rhyw ffordd, e.e. staff, pwyllgor, gwirfoddolwyr. Mae’n bosib ei ddilyn fel grŵp staff a phwyllgor ar-lein neu gellir ei wneud yn unigol fel rhan o anwythiad staff neu aelodau pwyllgor newydd.

Mae cyfle i stopio’r cyflwyniad a thrafod fel grŵp, gan gynnwys sut i ymateb mewn gwahanol senarios. Byddwch yn derbyn cyflwyniad PPT byr a fydd yn rhoi arweiniad pellach ynghylch sut i ymateb i’r senarios – cynghorwn chi i edrych ar rhain yn fuan ar ôl gorffen yr hyfforddiant.

Nod y cyflwyniad:

  • Dysgu a datblygu dealltwriaeth ynglŷn â beth yw cynhwysiant, cydraddoldeb ac amrywiaeth
  • Ystyried addasiadau neu newidiadau all eich lleoliad eu gwneud?
  • Codi hyder i drafod materion sensitif gyda rhieni a gofalwyr
  • Dathlu ac adeiladu ar yr hyn a wneir yn barod.

Ar ôl cwblhau’r cyflwyniad, byddwch chi yn:

  • Deall gwahanol elfennau a gofynion wrth sicrhau cynhwysiant ac amrywiaeth yn y lleoliad
  • Adnabod addasiadau neu newidiadau y gallwch eu gwneud yn eich lleoliad
  • Hyderus wrth drafod materion sensitif a holi cwestiynau pwrpasol
  • Dathlu amrywiaeth a chydraddoldeb yn hyderus ac yn ddeallus.

I dderbyn copi o’r adnodd hwn, archebwch yma.

Wrth glicio ar y testun isod gellir lawrlwytho rhestr o lyfrau mae’r Mudiad wedi ei greu i blant oed meithrin fydd o gymorth iddyn nhw weld y byd trwy lygaid eraill.

Taflen Llyfrau Cylch i Bawb Leaflet

Cylch i Bawb: Croesawu pob teulu gyda’n pecyn LHDTC+

Mae Mudiad Meithrin yn croesawu teuluoedd o bob cefndir, rhywedd a rhywioldeb. Roedd Mudiad Meithrin eisiau gwrando ar straeon a chlywed profiadau teuluoedd amrywiol. Roedden ni am weithio gyda nhw fel y gallai ymarferwyr sy’n gweithio mewn lleoliadau sy’n aelodau o Mudiad Meithrin, ddysgu o’u profiadau a datblygu lleoliadau cynhwysol sy’n groesawgar i bob teulu.

Felly, cyd-gynhyrchiad yw’r pecyn hwn rhwng Mudiad Meithrin a phobl LHDTC+. Mae wedi ei greu i’w ddefnyddio gan ymarferwyr, drwy gydol y flwyddyn ac nid yn ystod dathliadau a digwyddiadau LHDTC+ yn unig.

Ry’n ni am i bob plentyn sy’n mynychu lleoliadau Mudiad Meithrin ddatblygu empathi a thosturi ac i ddatblygu cyfeillgarwch ystyrlon nawr ac yn y dyfodol. Ry’n ni am iddyn nhw ddysgu bod yn garedig wrth ei gilydd, i fod yn deg ac i barchu a gwerthfawrogi ei gilydd, beth bynnag eu rhyw, rhywedd neu rywioldeb, crefydd neu gred, hil neu anabledd. I glywed mwy am y pecyn, gwyliwch y cyflwyniad byr yma.

I dderbyn copi o’r pecyn, archebwch yma.

Mae ‘Cymru Ni’ yn becyn o adnoddau sy’n dathlu hanes pobl Ddu Cymru.

Fe grëwyd yr adnoddau oherwydd pwysigrwydd cynnal sgyrsiau, neu rai tebyg, gyda phlant bach 2 i 5 oed a chael adnoddau sydd yn hawdd i’w deall ac yn addas fel sbardun i’r sgwrs.

Maent hefyd yn cyfrannu at gau’r bwlch gwybodaeth sydd yn bodoli o ran adnoddau addas yn y Gymraeg ar gyfer plant bach. Maen nhw’n cefnogi pwyslais y cwricwlwm newydd ar ddathlu hanes pobl Ddu, Asiaidd ac o Leiafrifoedd Ethnig fel elfen ganolog i hanes Cymru.

Gobeithiwn bydd yr adnoddau hyn yn rhoi hyder i ymarferwyr yn y Cylchoedd Meithrin a’r meithrinfeydd dydd, i rieni/gofalwyr ac eraill i gynnal sgyrsiau am aml-ddiwylliannedd Cymru. Gallwch gael gafael ar y cyflwyniadau drwy ddewis enw neu lun yr unigolyn isod.

COLIN JACKSON

 

BETTY CAMPBELL 

 

MAGGIE OGUNBANWO 

 

 

JOHN YSTUMLLYN

Dewch i ddathlu rhai o brif wyliau crefyddol y byd!

Bwriad y pecyn hwn yw eich helpu i ddathlu gwyliau crefyddol newydd yn hyderus yn eich lleoliadau yn ystod y flwyddyn.

Mae’r pecyn yn cynnig cyflwyniad i chwech o brif grefyddau’r byd ac yn cynnwys straeon a chaneuon perthnasol, ynghyd â gweithgareddau y gellir eu gwneud gyda’r plant bach. Mae’r pecyn yn rhoi sylw i’r crefyddau canlynol: Bwdhaeth, Cristnogaeth, Hindwaeth, Iddewiaeth, Islam a Sikhaeth gydag ychwanegiad NEWYDD ar Ddyneiddiaeth.

Crëwyd y pecyn gan Helen Roberts sydd yn arbenigo yn y maes ac yn enw cyfarwydd fel athrawes, darlithydd ac ymgynghorydd Addysg Grefyddol.

I dderbyn copi o’r pecyn hwn, archebwch yma.

Dyma adnodd hyfforddiant sydd â’r nod o’ch cefnogi chi i ddeall ac ymateb i trawma mewn plant bach yn y blynyddoedd cynnar.

Daw’r hyfforddiant mewn 3 rhan sydd wedi eu paratoi yn arbennig i’w defnyddio mewn cyfarfodydd tîm, fel rhan o’ch rhaglen hyfforddiant dymhorol, ac wrth anwytho staff newydd. Mae hefyd yn addas ar gyfer aelodau pwyllgorau gwirfoddol a staff sydd yn cefnogi lleoliadau.

Rhoddir sylw i nifer o sefyllfaoedd all gael effeithiau negyddol ar blant bach gan gynnwys Covid-19.

Crëwyd yr adnodd gan Eleri Griffiths, sydd wedi gweithio i amryw o fudiadau gwirfoddol yn ystod ei gyrfa megis Interlink, S’dim Curo Plant, Plant yng Nghymru a Mudiad Meithrin. Mae hyrwyddo hawliau plant yn bwysig iddi. Mae hi’n hyfforddwraig brofiadol ym meysydd diogelu plant, hawliau a lles plant.

I dderbyn copi o’r adnodd hwn, archebwch yma.

Mae rôl Pwyllgor Rheoli y Cylch Meithrin yn bwysig – ond nid yn ddychrynllyd! Ydych chi am wybod mwy am y rôl neu eisiau dysgu mwy am eich cyfrifoldebau? Mae’r hyfforddiant hwn yn rhoi sylw i ddau gyflwyniad fydd yn trafod y materion canlynol:

Polisiau eich lleoliad

Yn y cyflwyniad hwn cewch fwy o wybodaeth ynglŷn â:

  • Sut i gadw, diweddaru a rhoi polisiau ar waith
  • Sut mae Mudiad Meithrin yn eich cefnogi gyda’r wybodaeth ddiweddaraf
  • Eich rôl fel aelod pwyllgor wrth weithredu polisiau yn gywir.

Rôl yr Unigolyn Cyfrifol

Yn y cyflwyniad hwn cewch fwy o wybodaeth ynglŷn â:

  • Dyletswyddau’r unigolyn cyfrifol
  • Gofynion y rôl
  • Sut i weithredu yn effeithiol a chefnogi staff y lleoliad?
  • Cydestun rheoliadau a gofynion cyfreithiol.

I dderbyn copi o’r adnodd, archebwch yma.

Nodau Natur – taith gerddorol o gwmpas y byd.

Dyma adnodd hyfryd sy’n cyflwyno cyfuniad o hwiangerddi a rhigymau Cymraeg a rhai o ieithoedd eraill sy’n cael eu clymu i ddiwylliannau amrywiol sy’n rhan o’r Gymru fodern.

Mae’r cwricwlwm newydd yn canolbwyntio ar bwysigrwydd cynefin a threftadaeth ac mae’r adnodd hwn yn rhoi pwyslais ar ddathlu amrywiaeth ein treftadaeth amrywiol Gymreig gan felly ymateb yn bwrpasol i ofynion cwricwlwm Cymru.

Mae yma nifer o ganeuon yn Gymraeg, Arabeg, Bangla, Pwyleg, Romaneg ac Wrdw gyda threfniannau arbennig gan gantorion proffesiynol sef Siân James, Gwyneth Glyn a Bragod, ac mae gweithgareddau yn cyd-fynd â phob cân.

Mae rhigymau yn rhan o’n treftadaeth a pha ffordd well i ddysgu iaith newydd na thrwy ganu rhigymau!

Gallwch chi lawrlwytho’r hwiangerddi unigol drwy glicio ar y lluniau isod.

Mwynhewch!

 

           Wrdw                                 Aderyn Bach Syw

                    

 

 

 

     Dau Gi Bach                                Gwlad Pwyl

                   

 

 

 

        Romania                                       Arabeg

                   

 

 

 

         Beti Bwt                                    Bwrw Glaw

                   

 

Pleser yw cyflwyno’r ail adnodd yn y gyfres, gan ddilyn llwyddiant y fersiwn gyntaf a lansiwyd ym mis Mawrth 2021. Pwrpas Nodau Natur 2, fel y gwreiddiol, yw ymestyn a hybu ymwybyddiaeth o amrywiaeth treftadaeth Gymreig a Chymraeg, gan ddathlu treftadaeth cymunedau a diwylliannau sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru.

Cyfunir rhigymau Cymraeg â rhigymau/caneuon yn yr ieithoedd Somali, Sbaeneg, Pashto (Affganistan), Eidaleg, Mandarin a Chwrdaidd.

Gallwch lawrlwytho’r hwiangerddi unigol ynghyd â’r gweithgareddau sy’n cyd-fynd â nhw trwy glicio ar y lluniau isod:

         Eidaleg                                      Mandarin

                                       

 

 

 

      Iâr fach bert                                  Pashto

                                     

 

 

 

        Somali                                      Sbaeneg

                                   

 

 

 

      Cwrdaidd                                  Deryn Du

                                   

 

 

 

   Gee Ceffyl Bach

 

Pŵer Chwarae – Adnodd dysgu digidol newydd o dan arweiniad Kym Scott ar gyfer lleoliadau gofal ac addysg blynyddoedd cynnar.

Mae’r adnodd yn cynnwys tri modiwl a fydd yn trafod:

  • Paratoi’r ffordd at chwarae
  • Rhywle i chwarae
  • Rôl yr oedolyn wrth gefnogi ac ehangu chwarae’r plant.

Byddwch yn dysgu am:

  • Bwysigrwydd chwarae i addysg plant, a’r amgylchiadau sydd yn galluogi chwarae o ansawdd uchel
  • Ddarparu awyrgylch dysgu, yn fewnol ac allanol, sy’n ysgogi chwarae
  • Rhyngweithio efo plant mewn ffordd sy’n cefnogi ac yn ehangu eu chwarae.

Crëwyd yr hyfforddiant hwn yn arbennig i Mudiad Meithrin gan Kym Scott sydd yn arbenigo ym maes y blynyddoedd cynnar. Cychwynnodd Kym Scott ei gyrfa yn gweithio gyda phlant ifanc fel nani a chymhorthydd cyn-ysgol. Aeth hi ymlaen i weithio ym maes dysgu fel athrawes ac fel uwch arweinydd yn ysgolion Llundain, cyn ymuno â Thîm Cynghorol Blynyddoedd Cynnar Lewisham yn ne Llundain, ac yna fe’i treuliodd hi 15 mlynedd yn cefnogi lleoliadau cyn-ysgol, meithrinfeydd, gofalwyr plant ac ysgolion, o dan amrywiaeth o amgylchiadau.

Bellach, mae hi’n siaradwr cynhadledd, hyfforddwraig ac ymgynghorydd blynyddoedd cynnar llawrydd sefydledig. Mae hi’n gweithio yn y DU a thramor, ac mae ganddi record gydnabyddedig fel un sy’n cefnogi arweinwyr i wella safon eu darpariaethau blynyddoedd cynnar, a gwella allbynnau i’r plant. Mae hi’n treulio cyfnod sylweddol o’i hamser yn gweithio’n uniongyrchol mewn lleoliadau ac ysgolion er mwyn dal gafael ar y realiti a’r heriau o weithio gyda phlant ifanc.  Mae’r gwaith yma yn darparu cyfleoedd niferus iddi ddysgu gan blant ifanc a’u hymarferwyr, a hefyd, enghreifftiau bywyd go iawn sydd mor boblogaidd yn ei hyfforddiant.

I dderbyn copi o’r adnodd hwn, archebwch yma.

Adnodd rhyngweithiol yw hwn ar ffurf ‘Book Creator’, sydd wedi’i greu gan gwmni Portal Training. Ynddo, cewch gyngor ymarferol ar:

  • Gynnal deialog proffesiynol yn eich lleoliad neu wrth ymwneud â lleoliadau eraill
  • Y cysyniad o fod yn fentor neu ‘bydi’ i leoliadau eraill
  • Sut i fod yn bositif wrth ystyried ein hiechyd meddwl a meddylgarwch

Yr adnodd perffaith i’w ddefnyddio mewn cyfarfodydd staff ac i fyfyrio ar eich ymarfer.

Gwrandewch ar Gwyn Ellis o gwmni Portal Training isod, yn egluro mwy am yr adnodd.

I gael mynediad at yr adnodd hwn, archebwch yma.

Taflenni Syniadau i Gylchoedd Ti a Fi

Does dim rhaid i’r Cylch Ti a Fi ddigwydd o fewn 4 wal. Beth am fanteisio ar y byd mawr o’ch cwmpas, sydd â chymaint i’w gynnig i ddiddanu ac ennyn chwilfrydedd y plant ifancaf.

Mae taflenni syniadau wedi’u creu yn arbennig ar eich cyfer. Dyma gasgliad o syniadau ar weithgareddau hawdd wrth i chi gynnal eich Cylch Ti a Fi yn yr awyr agored waeth beth fo’r tywydd. O greu draenog taten i adnabod lliwiau ym myd natur, mae yna ddigon o syniadau hwyliog i chi roi cynnig arni.

I dderbyn copi o’r taflenni, archebwch yma.