Cyfle i addysgu a datblygu staff i sicrhau eich bod yn cynnig y cyfleoedd gorau i blant bach Cymru
Eisiau cymhwyster i weithio gyda phlant a phobl ifanc neu’n chwilio am ffordd i ddatblygu eich sgiliau? Mae’r cymhwyster Lefel 3 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant yn gyfle arbennig i chi cymhwyso yn rhad ac am ddim o fewn 18 mis.
Cewch gwrdd â dysgwyr eraill yn y gweithdai misol ar ddechrau’r cwrs a bydd cefnogaeth gan asesydd profiadol a mentor yn eich lleoliad gwaith ar hyd y daith.
Os ydych chi dros 16 oed a’n gweithio mewn Cylch Meithrin neu Feithrinfa Ddydd Gymraeg, ewch ati i wneud cais.
Ffurflen gais