Categorïau

Na does dim rhaid cael cymhwyster i wirfoddoli – ond os hoffech chi gymhwyso i weithio yn y sector gofal plant mae gennym ni gynllun hyfforddi gallwch ei ddilyn.

Eich penderfyniad chi ydi faint o amser yr hoffech chi roi i wirfoddoli!  Gallwn ni weithio o amgylch eich amser chi.

Mae sawl rôl posib ar gael i wirfoddolwyr. Gallwch chi:

  • Ddod yn aelod o’r Pwyllgor- mae Cylchoedd Meithrin yn ddibynnol ar wirfoddolwyr i fod ar bwyllgor rheoli’r lleoliadau.
  • Beth am gynnal neu gynorthwyo yn y Cylch Ti a Fi?
  • Beth am fod yn ffrind i’r cylch a helpu pan mae angen dwylo ychwanegol wrth fynd â’r plant am dro neu ar drip?
  • Beth am fynd mewn i siarad am eich gwaith neu i ddysgu rhywbeth newydd i’r cylch?
  • Beth am rannu eich arbenigeddau – ydych chi’n hoffi garddio ac yn medru helpu’r cylch i blannu?

Mae llawer o ffyrdd amrywiol i wirfoddoli – trafodwch gyda’ch Cylch Meithrin lleol neu cysylltwch â Mudiad Meithrin i gael mwy o wybodaeth.

Nid oes rhaid i bob gwirfoddolwr fedru siarad Cymraeg. Mae sawl rôl lle nad ydi Cymraeg yn hanfodol.

Gallwn hefyd eich cefnogi i ddilyn cwrs iaith er mwyn gwirfoddoli ymhellach yn ein lleoliadau – mae cefnogaeth a hyfforddiant ar gael i’ch galluogi i wirfoddoli yn y rôl sydd mwyaf cyfforddus i chi.

Bydd rhaid mynd drwy broses i gael GDG, a bydd gofyn i chi gael lefel o hyfforddiant amddiffyn a diogelu plant. Bydd y lleoliadau yn gallu trefnu’r rhain i chi.

Mae’n ddibynnol ar eich rôl. Os byddwch yn rhan o’r pwyllgor, bydd rhaid gwneud peth gwaith papur, ond mae gan Mudiad Meithrin lawer iawn o adnoddau a thempledi yn barod i’ch cynorthwyo. Bydd eich Cydlynydd Cefnogi hefyd yno i helpu chi ar hyd y daith.

Nid yw hyn yn rhwystr. Rydym yn ymwybodol  iawn bod y mwyafrif o’n gwirfoddolwyr yn gweithio, ac rydym yn medru cydweithio i wneud yn siŵr bod yr amser yn gyfleus i bawb.

Peidiwch â phoeni! Mae yna lawer iawn o hyfforddiant ar gael gan y Mudiad drwy ei adain hyfforddiant Academi i’ch helpu ar eich taith. Hefyd, mae gan bob Cylch Meithrin Gydlynydd Cefnogi sydd yno i helpu ac arwain y lleoliadau. Fyddwch chi fyth ar eich pen eich hun!