Cwricwlwm i Gymru

Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir

Datblygwyd y cwricwlwm hwn ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir i’w fabwysiadu, pe bydden nhw’n dymuno gwneud hynny. Mae’n rhan o’r Cwricwlwm i Gymru.

Dylai lleoliadau sy’n dewis mabwysiadu’r cwricwlwm hwn ei ddefnyddio yn ei gyfanrwydd i gefnogi cynllunio effeithiol i sicrhau datblygiad cwricwlwm sy’n ddatblygiadol addas i’n dysgwyr ieuengaf.

At ddefnydd y canlynol y mae yn bennaf:

  • arweinwyrymarferwyr a phwyllgorau rheoli lleoliadau meithrin nas cynhelir sy’n cael eu hariannu i ddarparu addysg gynnar yng Nghymru
  • athrawon ymgynghorol y blynyddoedd cynnar, neu’r rhai mewn rolau cyfatebol mewn awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol, sy’n cefnogi lleoliadau wrth gynllunio a darparu addysg gynnar
  • sefydliadau eraill sy’n darparu cymorth proffesiynol i leoliadau nas cynhelir
  • arweinwyr, ymarferwyr a phwyllgorau rheoli lleoliadau meithrin nas cynhelir nad ydyn nhw’n cael eu hariannu i ddarparu addysg gynnar ond y mae’n ofynnol, o dan y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir, iddyn nhw ymarfer yn unol â gofynion statudol y cwricwlwm.
Categorïau

Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu cwricwlwm cyffrous newydd sy’n sicrhau bod ein plant yn cael y cyfleoedd a chefnogaeth gorau ym mywyd, iddynt ffynnu at ddyfodol Cymru.  Mae’r cwricwlwm yn gontinwwm dysgu i blant 3 i 16 oed. Bellach ni fydd yna ‘gyfnodau’ neu ‘gamau’ – bydd yr holl blant ar yr un continwwm dysgu. Ei enw yw Cwricwlwm i Gymru.

O Fedi 2022, os ydych yn derbyn cyllid i ddarparu addysg bydd angen i chi ddarparu:

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariannir nas cynhelir. Datblygwyd y cwricwlwm hwn ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir drwy waith cyd-awduro gan ymarferwyr, ar gyfer ymarferwyr, ynghyd ag arbenigwyr ym maes datblygiad plant ac addysg gynnar. Dylai darparwyr addysg feithrin a ariannir nas cynhelir fabwysiadu’r cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariannir nas cynhelir i gefnogi cynllunio at ddysgu a datblygiad plant unigol sy’n derbyn eu haddysg feithrin yn eu lleoliad. Mae’r cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariannir nas cynhelir wedi ei ddatblygu i gefnogi dysgwyr ar ddechrau’r continwwm dysgu 3 i 16 oed, gan gynnwys y rhai ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Mae’n cefnogi dysgu a datblygiad y dysgwyr hynny i sicrhau eu bod yn cael y dechrau gorau posib ar eu taith dysgu.

Wrth gyflawni dyletswydd statudol Llywodraeth Cymru, mae’r cwricwlwm hwn yn bodloni’r gofynion canlynol:

  • mae’n galluogi dysgwyr i ddatblygu yn y ffordd a ddisgrifir ym mhedwar diben y cwricwlwm
  • mae’n eang ac yn gytbwys
  • mae’n addas ar gyfer dysgwyr o wahanol oedrannau, galluoedd a doniau
  • mae’n darparu llwybr cynnydd priodol i bob dysgwr

Mae’r cwricwlwm hwn hefyd yn:

  • cwmpasu’r chwe maes dysgu a phrofiad
  • cwmpasu’r 27 datganiad o’r hyn sy’n bwysig
  • adlewyrchu egwyddorion cynnydd
  • cwmpasu elfennau gorfodol y cwricwlwm, gan gynnwys y sgiliau trawsgwricwlaidd gorfodol

Dylai lleoliadau sy’n dewis mabwysiadu’r cwricwlwm hwn ei ddefnyddio yn ei gyfanrwydd i gefnogi cynllunio effeithiol er mwyn sicrhau cwricwlwm sy’n briodol yn ddatblygiadol ar gyfer ein dysgwyr ieuengaf.

Gallwch.  Mae’r cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariannir nas cynhelir wedi ei ddatblygu i gefnogi dysgwyr ar ddechrau’r continwwm dysgu 3 i 16 oed, gan gynnwys y rhai ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Mae’n cefnogi dysgu a datblygiad y dysgwyr hynny i sicrhau eu bod yn cael y dechrau gorau posib ar eu taith dysgu.  Oherwydd natur gynhwysol a’r ymagwedd sy’n rhoi lle canolog i’r plentyn, gall ymarferwyr ei addasu at ddefnydd gyda phlant iau. Mae Cwricwlwm i Gymru yn gofyn bod lleoliadau meithrin a ariannir nas cynhelir yn cyhoeddi crynodeb o’r cwricwlwm maent wedi ei mabwysiadu. Mae angen i leoliadau hysbysu rhieni, rhanddeiliaid ac unrhyw un arall sy’n gysylltiedig â’r cylch pa gwricwlwm maent yn ei ddilyn.

O dan y Safonau Gofynnol Cenedlaethol, disgwylir i leoliadau nad ydynt yn derbyn cyllid i ddarparu addysg, ddarparu ymarfer yn unol â gofynion y cwricwlwm statudol. Fel gyda Fframwaith y Cyfnod Sylfaen, disgwylir i leoliadau nas ariannir hefyd fod yn gyfrifol am sicrhau bod egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru yn cael eu deall a’u rhoi ar waith mewn ffyrdd sy’n addas at oedran, gallu a chyfnod datblygiadol y plant yn eu gofal a natur y ddarpariaeth.

Nid yw’r term ‘dysgu sylfaen’ yn union gyfystyr â’r term ‘Cyfnod Sylfaen’ a bydd y derminoleg a ddefnyddir yn dibynnu ar y cyd-destun. Dyma rai enghreifftiau o sut y gellid defnyddio terminoleg yng Nghwricwlwm i Gymru.

  • Gallai ‘Y Cyfnod Sylfaen yw’r cwricwlwm statudol ar gyfer plant 3 i 7 oed yng Nghymru’ newid i ‘Cwricwlwm 3 i 16 i bob dysgwr yw Cwricwlwm i Gymru’.
  • Gallai ‘Gellir cael gafael ar ddysgu proffesiynol i gefnogi dealltwriaeth o addysgeg y Cyfnod Sylfaen drwy Hwb’ newid i ‘Mae modd cael gafael ar ddysgu proffesiynol i gefnogi dealltwriaeth o addysgeg dysgu sylfaen drwy Hwb’.
  • Gallai ‘Gellir darparu’r Cyfnod Sylfaen mewn ysgolion neu leoliadau meithrin nas cynhelir a ariennir’ newid i ‘Gellir darparu addysg feithrin mewn ysgolion neu leoliadau meithrin a ariennir nas

Efallai y bydd angen newid terminoleg ‘meithrinfa’r Cyfnod Sylfaen’ hefyd yn dibynnu ar y cyd-destun.

  • Gallai ‘Mae plant yn gymwys i dderbyn darpariaeth meithrin y Cyfnod Sylfaen ar ôl eu pen-blwydd yn 3 oed’ newid i ‘Mae plant yn gymwys i gael addysg feithrin ar ôl eu pen-blwydd yn 3 oed’.
  • Defnyddiwch ‘meithrin’ wrth gyfeirio at y ‘dosbarth’ neu’r ‘adeilad’ y mae’r plentyn ynddo.
  • Defnyddiwch ‘plant 3 a 4 oed’ wrth gyfeirio at oedran plentyn tra ei fod yn ‘meithrin’.

Rhaid i ddarparwyr addysg feithrin a ariennir nas cynhelir wneud trefniadau ar gyfer asesiadau cychwynnol a pharhaus sy’n cefnogi cynnydd plant yn eu lleoliad, a rhoi’r trefniadau hynny ar waith. Gan ddefnyddio egwyddorion Cefnogi cynnydd dysgwyr: canllawiau asesu, rydyn ni wedi gweithio gyda phartneriaid i lunio trefniadau asesu drafft ar gyfer lleoliadau ar y cyd er mwyn ategu eu cwricwlwm sy’n amlinellu’r ffyrdd mwyaf priodol o asesu a chefnogi cynnydd. Cyhoeddwyd ymgynghoriad ar y trefniadau asesu drafft ar 30 Medi 2022 a daeth i ben ar 23 Rhagfyr 2022. Cyhoeddir y trefniadau asesu terfynol erbyn mis Medi 2023. Rhwng mis Medi 2022 a chyhoeddi’r trefniadau asesu terfynol yn 2023, mae disgwyl i leoliadau ddefnyddio trefniadau asesu priodol ar gyfer eu dysgwyr gan ddefnyddio’r trefniadau drafft i’w helpu i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd a gweithredu trefniadau asesu cychwynnol.

Mae angen cynllunio i gwrdd ag anghenion plant fel eu bod nhw’n medru chwarae a dysgu yn hapus mewn ffyrdd fydd yn gymorth iddyn nhw ddatblygu sgiliau mewn ffordd holistaidd. Mae’r egwyddorion allweddol ar gyfer dysgu holistaidd ac ystyrlon i bob plentyn yn dechrau gydag oedolion dawnus, sylwgar sydd â diddordeb ynddynt, sy’n darparu profiadau dilys sy’n ennyn diddordeb o fewn amgylcheddau effeithiol a chyffrous. Ein rôl yw defnyddio ein harsylwadau i gynllunio profiadau ac amgylcheddau ystyrlon sy’n berthnasol i ddiddordebau’r plant. Mae’r cwricwlwm yn sicrhau bod elfennau gofynnol Cwricwlwm i Gymru yn cael eu hymgorffori i fframwaith addysgeg addas sy’n canolbwyntio ar anghenion plentyn sy’n datblygu, a hynny drwy’r pum llwybr dysgu – perthyn, cyfathrebu, archwilio, datblygiad corfforol a llesiant.

Mae Mudiad Meithrin wedi datblygu pecyn cynllunio yn arbennig ar gyfer lleoliadau nad ydynt yn derbyn cyllid 3 oed. Mae’r pecyn yn hyblyg a gellir ei ddefnyddio’n rhannol neu yn ei gyfanrwydd i gofnodi diddordebau’r plant; y momentau dysgadwy; y gwahoddiadau i ddysgu; y profiadau; taith dysgu’r plentyn; geirfa allweddol; ymarfer myfyriol; sgiliau trawsgwricwlaidd; i adlewyrchu’r pum llwybr datblygu mewn modd holistaidd; a phrofiadau dan do ac yn yr awyr agored. Mae’r pecynnau ar gael ar ôl mynychu sesiwn dysgu proffesiynol trwy Academi. academi@meithrin.cymru

Mae’r cwricwlwm hwn yn cydnabod ac yn dathlu natur unigryw pob plentyn a’r hyn sydd ganddo i’w gynnig i’r profiad dysgu. Dylai’r cyfnod dysgu cynnar hwn fod yn ddi-frys, gan ganiatáu amser, lle a rhyddid i’r plentyn sy’n datblygu atgyfnerthu’r hyn y mae’n ei ddysgu drwy gyfleoedd i ddychwelyd at ei wybodaeth a’i sgiliau newydd, eu hailystyried a’u mireinio. Mae’r dull cylchol hwn yn hanfodol er mwyn gwneud cynnydd ar hyd y daith ddysgu. Wrth wraidd y cwricwlwm hwn mae pum llwybr datblygu allweddol sy’n hanfodol er mwyn i bob plentyn ifanc ddysgu a datblygu. Mae’r llwybrau datblygu hyn yn canolbwyntio ar y plentyn ac yn ddibynnol ar ei gilydd, ac maen nhw yr un mor bwysig â’i gilydd o ran cefnogi datblygiad a chynnydd cyffredinol. Maen nhw’n canolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig i’r plentyn ac mae cysylltiad agos rhyngddyn nhw a’r egwyddorion allweddol datblygiad plant, yn ogystal â’r datganiadau cyffredin o’r hyn sy’n bwysig a’r disgrifiadau dysgu yn y chwe maes dysgu a phrofiad. Maen nhw wedi eu datblygu er mwyn sicrhau y gellir helpu plant i wneud cynnydd ar eu cyflymder eu hunain ac yn yr amgylchedd dysgu a ffefrir ganddyn nhw. Y pum llwybr datblygu yw:

  • perthyn
  • cyfathrebu
  • archwilio
  • datblygiad corfforol
  • lles

Mae datblygiad o fewn ac ar draws y pum llwybr datblygu yn dibynnu ar ansawdd ein rhyngweithio a’r profiadau a’r amgylcheddau dysgu y byddwn ni’n eu creu.

Dylech. Mae’r cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariannir nas cynhelir yn annog ymarferwyr i fodelu sgiliau cyfathrebu ac i gynnig amgylcheddau a phrofiadau llawn cyfleoedd cyfathrebu. Mae cyfathrebu yn rhan hanfodol o ddatblygiad plant. Dyma sut mae plant ifanc yn ffurfio perthnasau, ac mae’n hanfodol ar gyfer dysgu, chwarae a gwneud ffrindiau. Mae cyflwyno straeon a llyfrau i blant ifanc yn ennyn eu diddordeb mewn straeon, rhigymau a chaneuon o’u diwylliant hwythau a diwylliannau eraill. Mae plant yn dysgu sut i ddatblygu eu hyder, sgiliau gwrando a chanolbwyntio yn ogystal â’u geirfa. Maent yn dysgu am synau, geiriau ac iaith. Mae darllen straeon yn symbylu’r dychymig, yn datblygu sgiliau cymdeithasol ac yn helpu plant ifanc i ddysgu mwy am y byd. Mae’n hanfodol bod plant yn clywed straeon yn ddyddiol. Gall hyn ddigwydd mewn grwpiau mawr neu fach, tu mewn neu y tu allan. Os ydy plentyn yn dewis peidio ymuno, bydden nhw’n dal i gaffael y wybodaeth. Am adnodd ‘Amser Stori’ ewch i Dysgu Sylfaen Taflen_Amser_Stori_Cymraeg.pdf (meithrin.cymru)

Defnyddir y dull trochi iaith i gyflwyno’r Gymraeg i blant ifanc sy’n mynychu ein Cylchoedd Meithrin. Cynhelir holl weithgareddau drwy’r Gymraeg, gan annog y plant i gyfathrebu gydag oedolion a’u cyfoedion drwy gyfrwng y Gymraeg. O fewn yr amgylchedd hon, gall plant ddatblygu sgiliau iaith sy’n cynnwys elfennau o’r cwricwlwm ar gyfer leoliadau a ariannir nas cynhelir. Mae’r cynllun wedi ei gymeradwyo gan Estyn o fewn sawl adroddiad arolygu. Mae Croesi’r Bont yn cefnogi’r cwricwlwm ar gyfer lleoliadau a ariannir nas cynhelir yn llawn.

Mae datblygiad cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariannir nas cynhelir wedi creu cyfle i ni ystyried y derminoleg sy’n disgrifio ymarfer a darpariaeth. Er enghraifft, mae addysgeg y Cyfnod Sylfaen yn cyfeirio at ‘ddarpariaeth barhaus’, ‘darpariaeth wedi’i chyfoethogi’ a ‘thasgau ffocws’. Er nad yw’r derminoleg hynny’n ymddangos yn y cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariannir nas cynhelir, dylid parhau gydag addysgeg ac ymarfer Cyfnod Sylfaen o safon.  Mae’r iaith a defnyddir yn nogfennau’r cwricwlwm wedi ei chryfhau i gefnogi addysgeg drwy ganolbwyntio ar yr egwyddorion allweddol sy’n hanfodol ar gyfer dysgu holistaidd ac ystyrlon. Yn sylfaenol i hwn yw’r ‘galluogwyr’ – oedolion sy’n galluogi dysgu, profiadau sy’n ennyn diddordeb ac amgylcheddau effeithiol. Maent yn ddibynnol ar ei gilydd, ac mae’r cysylltedd hwn yn allweddol i ddysgu ac addysgu ar draws y Cwricwlwm i Gymru. Er nad yw darpariaeth barhaus, darpariaeth wedi’i chyfoethogi a thasgau ffocws yn trosglwyddo’n uniongyrchol, maen nhw’n allweddol i addysgeg dysgu sylfaen llwyddiannus o fewn yr elfennau sy’n galluogi dysgu. Nid yw pwysigrwydd y rhyngweithio rhwng oedolion, amgylcheddau a phrofiadau felly yn gyfyngedig i blant 3 i 7 oed ac o ganlyniad mae’n gwireddu’r uchelgais o gontinwwm dysgu 3 i 16.

Ystyr syml addysgeg yw’r dulliau a defnyddir i ddysgu. Mae’r rhain yn cynnwys arddulliau dysgu ac asesu, a sut y darperir y cwricwlwm. Yn hanfodol i wireddu uchelgais y cwricwlwm hwn mae addysgeg effeithiol sy’n canolbwyntio ar y plentyn, sy’n ymatebol, yn deinameg ac wedi ei gwreiddio mewn perthnasau gref. Er i egwyddorion addysgeg effeithiol gael eu mewnblannu o fewn y cwricwlwm hwn, mae’n arbennig o bwysig i ni sicrhau bod yr amgylchedd dysgu o fewn ein lleoliad yn darparu cyfleoedd cyson ar gyfer y canlynol:

  • chwarae a dysgu’n seiliedig ar chwarae
  • bod yn yr awyr agored
  • dysgu dilys a phwrpasol
  • llythrennedd corfforol

Gellir canfod rhagor o wybodaeth am y rhain ar:

https://hwb.gov.wales/repository/resource/b8781f79-5eb7-4548-a20e-a17b0da88df2/en

 

Cynlluniwyd y cwricwlwm a threfniadau asesiadau drafft ar gyfer lleoliadau a ariannir nas cynhelir at ddefnydd mewn lleoliadau’n unig. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod efallai bydd ysgolion yn canfod yr egwyddorion yn ddefnyddiol wrth ddatblygu eu cwricwlwm a threfniadau asesu eu hunain wrth gefnogi dysgwyr ifanc yn ystod y cyfnod dysgu hwn.

Mae adnoddau ar gael drwy Academi i gefnogi gweithredu’r cwricwlwm ar gyfer lleoliadau a ariannir nas cynhelir.  Mae rhai adnoddau ar gael trwy gais. Caiff  adnoddau Academi eu diweddaru yn aml, felly edrychwch ar y safle yn rheolaidd. Darparu hyfforddiant i staff a gwirfoddolwyr Academi – Mudiad Meithrin

Mae modiwlau dysgu proffesiynol ar gael ar Hwb. Maent yn addas i’w defnyddio mewn ysgolion a lleoliadau.  Byddent yn cefnogi ymarferwyr i fyfyrio ar ymarfer a darpariaeth wrth ddarparu’r cwricwlwm.

Seilir rhain ar 6 thema:

  • Dysgu dilys a phwrpasol
  • Datblygiad y plentyn
  • Arsylwi
  • Dysgu yn yr awyr agored
  • Chwarae a dysgu yn seiliedig ar chwarae
  • Cyfnodau pontio

 

https://hwb.gov.wales/repository/resource/b8781f79-5eb7-4548-a20e-a17b0da88df2/en

Mae cyfres o fodiwlau hefyd ar gael i gefnogi lleoliadau a ariannir nas cynhelir wrth roi eu cwricwlwm ar waith. Mae’r modiwlau fel y ganlyn:

  • Deall Cwricwlwm i Gymru a datblygu cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariannir nas cynhelir
  • Deall y pum llwybr datblygu ac addysgeg
  • Datblygiad sgematig
  • Arweinyddiaeth mewn lleoliadau meithrin nas cynhelir

Bu Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad agos ag Estyn ac Arolygiaeth Gofal Cymru drwy gydol y broses o ddatblygu arweiniad ar y cwricwlwm a’r modiwlau cefnogi. Mae’r arolygwyr yn cydnabod mai taith ydi’r broses o roi’r cwricwlwm ar waith, i leoliadau ac i ymarferwyr fel ei gilydd. Maent yn deall bydd newid y cwricwlwm yn digwydd dros amser.