Mae pum sesiwn yn y gyfres hon (tri wyneb yn wyneb a dau ar-lein) rhwng Chwefror ac Ebrill 2025*. Mae angen i gyfranogwyr ymrwymo i fynychu’r gyfres gyfan a rhoi crynodeb myfyriol ar ôl ei chwblhau.
Cyn mynychu’r gyfres, gofynir bod cyfranogwyr y gyfres wedi mynychu Cyfres Arweinwyr Uwch CPEY DARPL o flaen llaw (naill ai’n bersonol neu drwy’r deunyddiau ar-lein).
Dyma’r ddolen i’r adnoddau ar-lein: Gofal Plant, Chwarae a’r Blynyddoedd Cynnar – DARPL
Amcanion Cyfres Arweinyddiaeth Estynedig DARPL
Amcanion y gyfres yw rhoi cyfle i’r garfan CPEY o arweinwyr ac ymarferwyr i:
- Cydnabod gwerth a phwysigrwydd dysgu proffesiynol gwrth-hiliol fel continwwm ar draws y blynyddoedd cynnar, gofal plant a gwaith chwarae.
- Galluogi gwerthfawrogiad o ffyrdd newydd o weithio ar gyfer newid critigol gweithredol cynaliadwy trwy arweinyddiaeth broffesiynol wrth-hiliol.
- Rhannu profiadau rhwng cyfoedion drwy sgwrs ar gyfer datblygu cymuned ymarfer.
- Galluogi arweinwyr i ddatblygu/cyfrannu at gynlluniau strategol sy’n cyd-fynd ag Argymhellion Adroddiad yr Athro Charlotte Williams a Chynllun Gweithredu Cymru Gwrth-Hiliol Llywodraeth Cymru (ARWAP).
- Defnyddio a chyd-greu offer ac adnoddau i arfarnu a llywio eu diwylliant sefydliadol eu hunain yn feirniadol.
- Archwilio a datblygu llythrennedd hiliol.
Canlyniadau Cyfres Dysgu Proffesiynol DARPL
Canlyniadau Cyfres Dysgu Proffesiynol DARPL
Ar ôl cwblhau’r gyfres hon gyda DARPL yn llwyddiannus, bydd y garfan CPEY yn barod i:
- Adnabod arweinyddiaeth gwrth-hiliol ac ymarfer proffesiynol.
- Codi ymwybyddiaeth drwy hunanfyfyrio dilys estynedig, gan gynnwys archwiliadau o “wynder” (whiteness), dynameg pŵer mewn arweinyddiaeth ac ymarfer proffesiynol.
- Diffinio (o fewn eu cyd-destun proffesiynol eu hunain) arferion allweddol arweinyddiaeth gwrth-hiliol ac ecwiti hil.
- Arwain / creu mannau diogel a dewr yn eu sefydliadau/ymarfer proffesiynol drwy ddiwygio polisi ac ymarfer.
- Creu deunyddiau, polisi ac adnoddau i gefnogi ymarfer a lles proffesiynol gwrth-hiliol.
- Gweithredu dysgu proffesiynol yng nghyd-destun eu gwaith eu hunain.
- Ymchwilio i’r heriau / rhwystrau sy’n bodoli i arweinwyr wrth symud o arfer cynhwysol cyffredinol i ddiwylliant sefydliadol cyfan gwrth-hiliol.
- Datblygu meddwl beirniadol am degwch hiliol yn ymarferol.
Manylion y sesiynau
Mae pum sesiwn yn y gyfres hon (tri wyneb yn wyneb a dau ar-lein) rhwng Chwefror ac Ebrill 2025*. Mae angen i gyfranogwyr ymrwymo i fynychu’r gyfres gyfan.
Chwefror 6 – sesiwn wyneb yn wyneb – Amser TBC ond edrych debyg 9.00-3.30
Chwefror 18 – ar-lein (bore) 9.30-12.00
Mawrth 6 – sesiwn wyneb yn wyneb Amser TBC ond edrych debyg 9.00-3.30
Mawrth 19 – ar-lein (pnawn cynnar) – 12.00-14.30
Ebrill 02 – sesiwn wyneb yn wyneb – Amser TBC ond edrych debyg 9.00-3.30
I archebu lle ar y sesiynau hyn cliciwch yma
Wrth gofrestru, byddwch yn darparu gwybodaeth bersonol er mwyn ein cynorthwyo i weinyddu a chyflwyno’r rhaglen. Gallwch ddarllen y Nodyn Preifatrwydd llawn isod.