Rydyn ni’n angerddol am roi’r dechrau gorau i blant ac felly’n ceisio darparu’r safon aur mewn profiadau blynyddoedd cynnar i bob plentyn yn ein gofal.
Rydym yn credu fod gan pob plentyn yng Nghymru yr hawl i Addysg Gymraeg. Trwy’r ddod i’n grŵp a derbyn cefnogaeth sydd ar gael mae modd i’ch plentyn ddilyn taith esmwyth a hyderus i addysg Gymraeg
Fel rhiant, rydym yn ymwybodol pa mor bwysig yw hi i chi deimlo eich bod yn dewis yr addysg gorau i’ch plentyn, ac felly bydd eich plentyn yn derbyn y gofal a’r addysg gorau yn ein Cylch Meithrin ni. Cymraeg yw’r iaith yn ein Cylch Meithrin ond rydym yn rhoi croeso cynnes i bob plentyn, dim ots beth yw’r iaith sy’n cael ei siarad yn y cartref.
Nod ein cylch yw hyrwyddo addysg a datblygiad plant o ddwy flwydd oed hyd at oed ysgol. Mae cyfle i blant gymdeithasu a dysgu trwy chwarae dan arweiniad ein staff proffesiynol, cyfeillgar a brwdfrydig.
Os hoffech drafod unrhyw agwedd o waith y cylch neu am wybodaeth ynglyn â chofrestru eich plentyn mae croeso i chi gysylltu â ni.
Oriau agor
Sesiwn Meithrin
Diwrnod | Bore | Prynhawn |
Dydd Llun | 8.50-5:30 (CLWB CINIO 11.30-12.30) (CLWB AR OL YSGOL 3:00-5:30) | |
Dydd Mawrth | 8.50-5:30 (CLWB CINIO 11.30-12.30) (CLWB AR OL YSGOL 3:00-5:30) | |
Dydd Mercher | 8.50-5:30 (CLWB CINIO 11.30-12.30) (CLWB AR OL YSGOL 3:00-5:30) | |
Dydd Iau | 8.50-5:30 (CLWB CINIO 11.30-12.30) (CLWB AR OL YSGOL 3:00-5:30) | |
Dydd Gwener | 8.50-3.00 (CLWB CINIO 11.30-12.30) |
Manylion cyswllt
Arweinydd: KAREN HOLMES
07816 406129
cylchaberteifi@meithrin.cymru
Cyfeiriad
CANOLFAN ENFYS TEIFI
STRYD NAPIER
ABERTEIFI
SA43 1EH
Math o Gylch
Cylch Meithrin
Cylch Cost
Bore £12.50 (8:50-11:20) Clwb cinio £5.50 (11:20-12:40) Prynhawn £12:50 (12:30-3:00)
- Clwb Ar Ôl Ysgol
- Clwb Cinio
- Ariannwyd yn rhannol gan Flying Start
- Gofal Cofleidiol