BETH SYDD CYN CAM CYNNYDD 1?
Mae Cymdeithas Dros Addysg Gymraeg (CYDAG) a Mudiad Meithrin yn falch o gyflwyno cynhadledd i ysgolion Cymraeg/dwyieithog – ‘Beth sydd cyn cam cynnydd 1?’. Bydd y gynhadledd yn edrych ar sut all ysgolion wneud defnydd o’r Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir (Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir – Hwb (gov.wales)) er mwyn gwella’r pontio rhwng y Cylch a’r ysgol. Mae’r siaradwyr gwadd yn cynnwys yr isod:-
-Kym Scott – arbenigwraig blynyddoedd cynnar sydd wedi cyflwyno mewn digwyddiadau’n rhyngwladol.
– Nia Evans a Gayle Shenton o Adran Dysgu Sylfaen, Llywodraeth Cymru
-Dr Glenda Tinney o brifysgol Y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin.
-2 ysgol yn cyflwyno arfer dda/astudiaeth achos
-Jonathon Cooper AEM, Estyn
Anelir y gynhadledd at Benaethiaid ac Uwch Arweinwyr ysgolion Cymraeg a dwyieithog ond bydd darpariaeth cyfieithu ar gael.
Cynhelir y gynhadledd ar 25ain o Fehefin yn Neuadd Medrus Mawr, Prifysgol Aberystwyth. Mae cost o £75 ar gyfer pob person sydd yn mynychu. Bydd te/coffi a chinio’n cael ei ddarparu ar y diwrnod.
Os ydych chi’n awyddus i archebu lle ar y diwrnod hwn, dilynwch y linc isod i gofrestru:-
https://forms.office.com/e/W3EnVW9JnM
BYDD COFRESTRU’N CAU AR YR 18fed O FEHEFIN