Ydych chi eisiau ennill gwefan?

Mae’n siwr eich bod yn barod ar Facebook neu lwyfannau eraill ac yn cyfathrebu gyda rhieni / eich cymuned?

Pa mor hwylus fyddai cael gwefan benodol ble gall pawb ddarllen am eich gwasanaethau, polisïau a’ch llwyddiannau gan hefyd alluogi rhieni i gofrestru lle i’w plant?

Dyma felly gyfle arbennig i 20 lleoliad ennill gwefan newydd sbon i’w Cylch / meithrinfa!

Beth sydd rhaid gwneud?

  • Darllen yr amodau a thelerau isod
  • Llenwi’r daflen ‘Forms’ (YMA) erbyn Ionawr 12 i roi enw’ch lleoliad yn yr het i gael cyfle i ennill!
  • Clywed erbyn Ionawr 19 a yw’ch lleoliad wedi ennill un o 20 gwefan (gaiff eu dewis ar hap)!

 

Amodau a thelerau

  • Bydd y wefan wedi’i dylunio ar y templed hwn: Cylch Meithrin Rhuthun
  • Bydd cwmni ‘Alaw’ (alaw.cymru) yn dylunio’r wefan yn seiliedig ar gynnwys Cymraeg a Saesneg safonol a chywir wedi’i ddarparu gan y lleoliad
  • Bydd y lleoliad yn darparu lluniau gyda chaniatâd h.y. caniatâd rhieni i ddefnyddio lluniau plant ayyb
  • Bydd dolen i wefan Mudiad Meithrin yn cael ei chynnwys ar y wefan
  • Bydd y lleoliad yn talu ffi flynyddol i gadw’r wefan yn fyw
  • Bydd cynrychiolydd yn mynd i hyfforddiant ar sut i ddiweddaru’r wefan
  • Ni fydd modd adio unrhyw nodweddion eraill
  • Ni ddarperir cefnogaeth dechnegol gan Mudiad Meithrin