Yn ystod yr wythnos 14-18 o Dachwedd, beth am fynd ati i drefnu gweithgareddau dawnsio i godi arian i’r cylch/meithrinfa? Mae rhai syniadau yn y daflen isod.

Dis-Goch: 16 o Dachwedd

Ar y diwrnod yma rydym yn awyddus i bob lleoliad gynnal Disco Coch er mwyn cefnogi a dymuno pob lwc i Dîm pêl-droed Cymru yng Nghwpan y Byd.
Beth sydd angen gwneud? Annog y plant i wisgo coch ar y diwrnod – a dawnsio!
Ar yr 8fed o Dachwedd fe fydd Radio Cymru yn cyhoeddi rhestr o ganeuon addas ar gyfer y disgo – fe fydd ar gael drwy app BBC Sounds neu ar eu gwefan – https://www.bbc.co.uk/programmes/m001ff61

Lawrlwythwch y daflen syniadau isod i ddechrau eich trefniadau heddiw.

Playlist Dawnsio gyda Dewin a Siani Sionc

Taflen weithgareddau

Lawrlwytho

Ffurflen noddi Dawnsathon

Lawrlwytho