Diwrnodau hyfforddiant partneriaeth Cwlwm – Pŵer Chwarae
17.03.2026 Mercure Hotel, Abertawe
18.03.2026 Llety Parc, Aberystwyth
19.03.2026 Venue Cymru, Llandudno
10.00 – 15.30 – Darperir cinio a lluniaeth ysgafn drwy’r dydd
Addas ar gyfer:
Ymarferwyr Cwlwm (Blynyddoedd Cynnar Cymru, Mudiad Meithrin, NDNA, Coram Pacey), ymarferwyr mewn ysgolion, myfyrwyr ac athrawon ymgynghorol blynyddoedd cynnar.
Dros dridiau ym mis Mawrth, mewn tri lleoliad yn ne, canolbarth a gogledd Cymru, byddwn yn archwilio pŵer chwarae i blant ifanc yng nghwmni Kym Scott a Chwarae Cymru. Ymunwch â ni i ddysgu, rhannu a mwynhau!
Ein siaradwyr gwadd ydy:
Mae Kym yn ymgynghorydd plentyndod cynnar, hyfforddwr, a siaradwr cynhadledd gyda dros 30 mlynedd o brofiad. Mae hi wedi gweithio gydag ysgolion ledled y byd i ddatblygu ymarfer ac addysgeg o ansawdd uchel. Mae hi’n adnabyddus am ei gallu i helpu ysgolion a lleoliadau i harneisio pŵer chwarae. Hi yw sylfaenydd The Place to Learn, platfform datblygu proffesiynol ar-lein ar gyfer addysgwyr.

Chwarae Cymru
Mae Chwarae Cymru yn eiriol dros angen a hawl pob plentyn i chwarae. Eu gweledigaeth yw dyfodol ble caiff chwarae ei werthfawrogi yng Nghymru am ei fod yn hanfodol i blentyndod iach a hapus. Gwlad ble mae plant yn rhydd i archwilio, darganfod, datblygu a thyfu drwy chwarae. Maent yn ymgyrchu dros Gymru sy’n chwarae-gyfeillgar trwy arwain gyda bwriad, cydweithio gyda chynwysoldeb, addysgu gyda brwdfrydedd, a chefnogi gyda sensitifrwydd.
Bydd y diwrnod cyfan yn rhad ac am ddim, ac edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno.