Gwobrwyo a chlodfori'r holl waith da y mae staff a gwirfoddolwyr yn ei gyflawni ar lawr gwlad.

Gwobrau 2023

Mae’r cyfnod enwebu ar agor! Dyma’ch cyfle i ddiolch a dathlu’r holl waith da sy’n digwydd ar lawr gwlad a chofiwch, mae’n bosib i unrhyw un enwebu.
Dyma’r 12 categori gwobr eleni sef:

  • Arweinydd
  • Chwarae a Dysgu Tu Allan
  • Cylch Meithrin
  • Cylch Meithrin Bach (12 neu lai ar y gofrestr) *newydd*
  • Cylch Ti a Fi
  • Cylch i Bawb
  • Cynorthwy-ydd
  • Gwirfoddolwr
  • Meithrinfa Ddydd
  • Pwyllgor
  • Dysgu a Datblygu
  • Dysgwr y flwyddyn *newydd*

Mae panel mewnol, sy’n cynnwys staff arbenigol o wahanol adrannau’r Mudiad, yn tynnu rhestr fer o’r holl enwebiadau. Yna caiff yr enwebiadau eu cyflwyno i banel allannol sy’n cynnwys arbenigwyr ym maes y Blynyddoedd Cynnar ac aelodau o Fwrdd Cyfarwyddwyr y Mudiad.

Ddim yn siŵr beth i’w gynnwys yn yr enwebiad? Edrychwch ar ein canllawiau enwebu isod.

Mae’r cyfnod enwebu wedi cau.

Arweinydd

Mae’r panel dyfarnu yn chwilio am enghreifftiau o’r canlynol:

  • Llwyddo i adeiladu perthnasau gwych gyda’r plant, rhieni a’r gymuned.
  • Rheoli ac yn arwain y tim gyda brwdfrydedd ac mewn ffordd arloesol ac ysgogol.
  • Trawsnewid y cylch mewn cyfnod byr.
  • O hyd yn chwilio am syniadau newydd arloesol i ddatblygu’r ardaloedd yn y cylch
  • Ymrwymiad i’r cylch, y tîm a’r gymuned.
  • Arweinydd hyderus sydd yn modeli ymddygiad a iaith bositif a chadarnhaol.
  • Arweinydd sydd yn gofyn cwestiynau, ymgynghori ac yn rhoi amser i wrando ar staff, plant, rhieni a phartneriaid.
  • Eirioli dros y cylch ac addysg Gymraeg.
  • Hyrwyddo dilyniant i addysg Gymraeg gydag enghreifftiau o arfer dda.
  • Arweinydd sydd yn monitro ac arsylwi yn gyson ac yn addasu, newid a gwella ble fod angen gan adael i’r plant arwain y gweithgareddau.
  • Arweinydd sydd yn gadael i’r plant arwain y cynllunio ac yn gwrando arnynt.

Cynorthwy-ydd

Mae’r panel dyfarnu yn chwilio am enghreifftiau o’r canlynol:

  • Cefnogi’r arweinydd drwy gynnig syniadau a gweithgareddau sydd yn ymestyn profiadau a sgiliau’r plant.
  • Cynorthwy-ydd hyderus sydd yn gyfforddus i arwain gweithgaredd tu fewn a thu allan
  • Ymrwymiad i’r cylch, y tîm a’r gymuned.
  • Cynorthwy-ydd sydd yn ymgynghori ac yn rhoi amser i wrando ar y plant.
  • Cymryd cyfleoedd i ddatblygu ei hun er lles y cylch.
  • Cymryd cyfrifoldebau ychwanegol i’r disgwyliadau o ran swydd ddisgrifiad.
  • Rhoi amser gwirfoddol er mwyn cynnig profiadau ychwanegol i’r plant e.e. carnifal ar ddydd Sadwrn.

Dewin a Doti

Mae’r panel dyfarnu yn chwilio am enghreifftiau o’r canlynol:

  • Dewin a Doti yn chwarae rôl ganolog mewn annog defnydd iaith o fewn y Cylch Meithrin.
  • Dewin a Doti yn cael eu plethu mewn i weithgareddau dyddiol y Cylch Meithrin e.e. bwrdd emosiynau, ymarfer corff, amser snac.
  •  Defnydd creadigol o Dewin a Doti sydd uwchlaw gweithgareddau dyddiol y Cylch Meithrin.
  • Manteisio ar ddigwyddiadau cenedlaethol i gael defnydd pellach o Dewin a Doti e.e. parti pyjamas, parti pen-blwydd Dewin a Doti.
  • Syniadau gwreiddiol o ddefnydd Dewin a Doti i gyflwyno’r Gymraeg yn y cartref.
  • Mae Dewin a Doti yn rhan o weithgareddau’r Cylch Ti a Fi (os oes un ynghlwm a’r Cylch Meithrin).
  • Mae Ap Dewin a Doti yn cael ei ddefnyddio yn y cylch ac yn cael ei hyrwyddo i rieni’r cylch.

Chwarae a Dysgu Tu Allan

Mae’r panel dyfarnu yn chwilio am enghreifftiau o’r canlynol:

  • Yn defnyddio’r Tu allan i fod yn ofod addysgu o safon uchel ymhob tywydd.
  • Wedi gwneud y defnydd gorau oll o’r Tu allan sy’n hybu datblygiad y plant.
  • Mae cylch yn cynnig profiadau tu allan cyson a chadarnhaol ble gall plant ymlacio, myfyrio a bod yn dawel a rhedeg a bod yn swnllyd.
  • Ymarferwyr sydd yn gyfforddus ac hyderus yn y tu allan ac sydd yn caniatâi plant cymryd risg
  • Defnyddio’r Tu allan ble mae plant yn gallu arsylwi a gwrando ar natur.
  • Enghreifftiau o greadigrwydd sydd yn ymestyn sgiliau’r plant.
  • Cynnig cyfleoedd unigryw tu allan drwy ddefnyddio’r ardaloedd cyfagos e.e. coedwig, y parc, y cae.
  • Rhoi cyfleoedd i’r plant dyfu planhigion e.e. blodau, llysiau a ffrwythau.
  • Mae’r defnydd o’r tu allan yn cynnwys cyfleoedd i ehangu iaith, rhifedd a llythrennedd digidol.
  • Yr ardal tu allan yn cynnig cyfleoedd am chwarae mentrus ac i gymryd risg.
  • Ydych chi’n mynd a’r plant allan o’r cylch i ymweld â’r gymuned, i’r parc, y traeth neu’r siopau?
  • Ydy’ch lle tu allan yn hollol gynhwysol gyda mynediad at bopeth i bob plentyn?

Cylch Meithrin a Cylch Meithrin Bach

Mae’r panel dyfarnu yn chwilio am enghreifftiau o’r canlynol:

  • CM sydd yn hyderus i rannu arferion da ac effeithiol gydag eraill ee ymarferwyr eraill, MM, Academi neu Hwb.
  • Trefnir ymweliadau cyson i mewn i’r cylch a thu allan er mwyn hybu datblygiad y plant.
  • Cydweithio agos iawn gyda’r ysgol Gymraeg leol er mwyn hybu dilyniant a threfniadau pontio arloesol.
  • Cylch yn darparu gwasanaethau ychwanegol yn ôl gofynion rhieni lleol e.e. gofal cofleidiol, cynnig 30 awr.
  • Defnyddio ffyrdd arloesol i gyfathrebu gyda rhieni presennol a marchnata i ddarpar rieni e.e. apiau, cylchlythyron, cyfrifon cymdeithasol, papurau bro.
  • CM sydd yn edrych am gyfleoedd i ddatblygu a gwella ansawdd y darpariaeth trwy hyfforddiant ac ymweliadau at ddarpariaethau eraill.
  • Staff yn mynychu hyfforddiant rheolaidd ar feysydd amrywiol er mwyn cynnig profiadau dysgu ychwanegol yn y cylch.
  • Y plant yn sail i bopeth yn y cylch e.e cynllunio, arwain gweithgareddau, ymgynghori
  • CM sydd yn darparu profiadau cyfoethog i blant.
  • Gwneud gwaith arbennig ym meysydd iaith, rhifedd a llythrennedd digidol.
  • Mae gan y cylch partneriaethau allanol effeithiol amrywiol yn y gymuned.
  • Mae profiadau cyfoethog yng nghyd destun trochi iaith.
  • Mae’r plant yn dylanwadu ar themau a gweithgaredd y Cylch.
  • Mae’r cylch yn gweithio gyda rhieni i ddatblygu sgiliau’r plant yn y cartref.
  • Mae pawb yn rhoi ymroddiad llawn i’r cylch (staff, teuluoedd, partneriaid, plant, y gymuned).

Cylch Ti a Fi

Mae’r panel dyfarnu yn chwilio am enghreifftiau o’r canlynol:

  • Y sesiwn yn gynhwysol i’r ardal ac yn gwneud ymdrech i ddenu teuluoedd o wahanol gefndiroedd iddo.
  • Modelau gwahanol o Gylchoedd Ti a Fi e.e am dro, rhithiol traddodiadol.
  • Cynllunio amrywiaeth o weithgareddau sy’n llwyddo i ddenu teuluoedd newydd a chadw teuluoedd i ddod yn ôl yn wythnosol.
  • Cylch Ti a Fi sydd wedi addasu dros y cyfnod clo i gynnig gwasanaeth rhithiol neu ymgysylltu â teuluoedd mewn modd creadigol o bell.
  • Ysbryd cymunedol gydag amrywiaeth o genedlaethau yn mynychu.
  • Cynnal prosiectau gyda’r gymuned e.e. cydweithio gyda’r cartrefi hen bobl.
  • Cyfleoedd gwych ac arloesol wrth gyflwyno’r Gymraeg i deuluoedd.
  • Enghreifftiau o waith gwych i drawsnewid y cylch mewn tymor byr e.e. cynyddu niferoedd, marchnata da.
  • Pontio gyda’r Cylch Meithrin cyfagos ac hyrwyddo dilyniant i’r Cylch Meithrin.
  • Enghreifftiau arloesol o godi arian.
  • Enghreifftiau o gyflwyno’r Gymraeg i deuluoedd mewn partneriaeth e.e Cymraeg i oedolion, Clwb Cwtsh.

Cylch i Bawb

Mae’r panel dyfarnu yn chwilio am enghreifftiau o’r canlynol:

  • Mae staff/pwyllgor y cylch wedi mynychu hyfforddiant Cylch i Bawb ac yn gallu dangos bod newid yn eu hymarfer yn dilyn yr hyfforddiant.
  • Enghreifftiau sut fydd y cylch yn mynd ati i baratoi gweithgareddau a dod o hyd i adnoddau. sy’n darlunio amrywiaeth ac/neu yn ceisio atal datblygiad rhagfarn am grwpiau o bobl e.e. y cylch yn defnyddio’r llyfrau a’r adnoddau yn y Pecyn Cylch i bawb i gynllunio gweithgareddau sy’n hybu amrywiaeth ddiwylliannol, corfforol ac ysbrydol.
  • Y lleoliad yn gwneud gwaith gwych i addasu’r lleoliad neu weithgaredd / trip er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn cael eu cynnwys e.e. creu ardaloedd penodol i helpu plentyn ymdopi.
  • Y cylch yn gwneud defnydd cyson o strategaethau gweledol e.e. makaton, cardiau dewis.
  • Cydweithio’n effeithiol gyda asiantaethau allanol ac ysgolion er budd y plant.
  • Enghreifftiau o strwythur cynllunio sy’n bodloni ac yn ymateb i anghenion unigol pob plentyn
  • Mae profiadau dysgu/digwyddiadau amlddiwylliannol yn y cylch.
  • Staff wedi mynychu cyrsiau hyfforddi penodol e.e. ELKLAN, Asthma, rhagfarn diarwybod.
  • Enghreifftiau o sut mae’r cylch wedi cynnig cefnogaeth i blentyn/ teulu lle mae’r Saesneg a’r Gymraeg yn ail neu drydedd iaith neu blentyn/teulu o gymuned du , Asiaidd,neu lleiafrif ethnig, neu blentyn ag anabledd/ADY.
  • Enghreifftiau o sut mae’r cylch yn croesawu pob plentyn a’i deulu beth bynnag fo’i iaith neu gefndir.
  • Enghreifftiau o sut mae dynion a/neu ryweddau eraill yn cael eu cynnwys ym mywyd pob dydd y cylch e.e o fewn y gweithlu, grwpiau tadau ac ati.
  • Mae’r Cylch Meithrin yn hyrwyddo gwaith aml genedlaethau yn y gymuned.
  • Mae’r cylch yn codi ymwybyddiaeth o hiliaeth ac yn dangos drwy esiampl fod angen gweithredu i atal hiliaeth.

Gwirfoddolwr

Mae’r panel dyfarnu yn chwilio am enghreifftiau o’r canlynol:

  • Wedi chwarae rôl flaenllaw wrth gynorthwyo’r cylch drwy gyfnod o drawsnewid e.e. newid lleoliad, ehangu gwasanaeth yn sylweddol, cofrestriad gydag Estyn neu AGC.
  • Wedi gorfod delio gyda chyfnodau heriol yn ystod eu cyfnod yn y rôl e.e. newidiadau staff, ail adfer cylch wedi’r cyfnod clo.
  • Yn arwain y ffordd drwy chwilio am gyllid / grantiau addas i gefnogi gwaith y cylch.
  • Yn gwneud gwaith arbennig ac ysgogol wrth drefnu digwyddiadau codi arian.
  • Yn cyfrannu tuag at ofal a phrofiadau’r plant yn y cylch e.e cynorthwyo, cyflwyno’r iaith, darllen stori.
  • Yn ymwrymo i fynychu hyfforddiant er mwyn datblygu sgiliau newydd.

Pwyllgor

Mae’r panel dyfarnu yn chwilio am enghreifftiau o’r canlynol:

  • Wedi gorfod delio gydag cyfnodau heriol e.e. difrod i adeilad, newidiadau staff, cynaladwyedd a chyfnodau clo.
  • Pwyllgor sydd yn adnabod cyfloedd i ddatblygu gwasanaethau’r cylch a’u staff.
  • Perthynas gadarn gryf gyda’r staff a’r pwyllgor ac enghreifftiau o gydweithio fel tîm.
  • Gwneud gwaith marchnata cyson ac yn meddwl am ffyrdd gwahanol i hysbysebu’r cylch.
  • Llwyddo i gynnal y cylch drwy gael targed codi arian blynyddol.
  • Pwyllgor yn cwrdd yn aml er mwyn rheoli’r cylch yn gadarn a gweithredu ar y cynlluniau datblygu.
  • Mae ethos datblygiad proffesiynol parhaus yn y cylch.
  • Mae ymroddiad gan bawb i’r cylch, rhieni, staff, partneriaid.
  • Mae’r pwyllgor yn cymryd pob cyfle i ddatblygu gwasanaeth y cylch e.e y Cynnig Gofal Plant, gofal cofleidiol ac ati.

Meithrinfa Ddydd

Mae’r panel dyfarnu yn chwilio am enghreifftiau o’r canlynol:

  • Cymuned glos gan y feithrinfa ac yn trefnu digwyddiadau cyson i godi arian ac i ddod a’r teuluoedd ynghyd.
  • Adnoddau priodol i holl blant ac ystod oedran y feithrinfa yn yr ystafelloedd ac ardal tu allan.
  • Defnyddio ffyrdd arloesol i gyfathrebu gyda rhieni presennol a marchnata i ddarpar rieni e.e. apiau, cylchlythyron, cyfrifon cymdeithasol, papurau bro.
  • Trefnir ymweliadau cyson i mewn i’r feithrinfa a thu allan er mwyn hybu datblygiad y plant o bob oedran.
  • Hybu a hyrwyddo dilyniant i addysg Gymraeg.
  • Staff yn mynychu hyfforddiant rheolaidd ar feysydd amrywiol er mwyn cynnig profiadau dysgu ychwanegol yn y feithrinfa.
  • Gwneud gwaith arbennig ym meysydd iaith, rhifedd a llythrennedd digidol i bob ystod oedran.
  • Y plant yn sail i bopeth yn y cylch e.e cynllunio, arwain gweithgareddau, ymgynghori.
  • Mae gan y Feithrinfa bartneriaethau allanol effeithiol amrywiol yn y gymuned.
  • Mae’r feithrinfa’n cynnig profiadau cyfoethog yng nghyd destun trochi iaith.
  • Mae’r plant o bob oedran yn dylanwadu ar themau a gweithgaredd y feithrinfa.
  • Mae’r Feithrinfa’n gweithio gyda rhieni i ddatblygu sgiliau’r plant.
  • Mae ymroddiad gan bawb i’r feithrinfa (staff, teuluoedd, partneriaid, plant, y gymuned).

Dysgu a Datblygu

Mae’r panel dyfarnu yn chwilio am enghreifftiau o’r canlynol:

  • Tystiolaeth o staff brwdfrydig, sy’n ymrwymo i fynychu hyfforddiant er mwyn datblygu sgiliau newydd.
  • Tystiolaeth o staff sy’n cymryd cyfleoedd i uwch-sgilio trwy ddilyn cyrsiau academi neu gynllun Croesi’r Bont, neu trwy dderbyn prentis yn y lleoliad (trwy Gynllun Prentisiaeth MM).
  • Tystiolaeth o staff sydd wedi mynychu hyfforddiant rheolaidd ar feysydd amrywiol er mwyn cynnig profiadau dysgu ychwanegol yn y cylch/meithrinfa ddydd.
  • Tystiolaeth o staff sydd wedi gwneud cynnydd ieithyddol da drwy ddilyn gwrs Camau neu gynllun Clwb Cwtsh.
  • Enghreifftiau o sut mae’r cylch/meithrinfa ddydd wedi gwella neu newid eu dulliau gweithio yn dilyn mynychu hyfforddiant a drefnwyd gan academi.
  • Enghreifftiau o sut mae’r cylch/meithrinfa ddydd wedi gwneud defnydd o adnoddau Dysgu a Datblygu academi (Adnoddau Dysgu a Datblygu – Mudiad Meithrin).
  • Cylch Meithrin sy’n mynd ati yn rhagweithiol i rannu enghreifftiau o arfer da gydag eraill (e.e. ymarferwyr eraill, MM, Academi neu Hwb).

3 Uchaf Gwobrau Mudiad Meithrin 2021