Mae Sioe Dewin a Doti yn teithio o amgylch Cymru yn ystod mis Mehefin i gyflwyno sioe arbennig i blant bach Cymru.
Mae Sioe Dewin a Doti yn ŵyl deithiol sy’n digwydd bob blwyddyn ar hyd a lled Cymru. Dyma gyfle gwych i weld Dewin a Doti mewn sioe sy’n llawn o ganeuon, dawnsio a hwyl i blant bach sy’n mynd i’n Cylchoedd Meithrin a Meithrinfeydd dydd.
Dewch a’r daith o gwmpas Cymru gyda Dewin, Doti a’n ffrind newydd – y Welsh Whisperer!
Sioe iaith Gymraeg, yn addas ar gyfer siaradwyr Cymraeg newydd. Addas i blant 0 – 7 oed a’u teuluoedd.
Fe fydd holl fanylion y daith a sut i gael eich tocynnau ar gael yn fuan.
Dyma’r dyddiadau, amseroedd a lleoliadau – manylion archebu tocynnau i ddilyn yn fuan.
|
Dyddiad |
Lleoliad |
Amseroedd y sioe |
| Mehefin / June 4 | Fferm Ymddiriedolaeth Amelia, Y Bari | 10:15, 11:30, 1:15 |
| Mehefin / June 5 | Canolfan Llys y Fran | 9:30, 11:00 |
| Mehefin / June 11 | Pontio, Bangor | 10.00, 11.30, 1.30 |
| Mehefin / June 12 | Neuadd Dwyfor | 10:00, 12:30 |
| Mehefin / June 18 | Neuadd y Sir Dinbych | 10:00, 1:15 |
| Mehefin / June 19 | Tŷ Pawb, Wrecsam | 10:00, 1:15 |
| Mehefin / June 20 | Y Plas, Machynlleth | 10.00,11.30, 1.30 |
| Mehefin / June 25 | Gerddi Botaneg | 10:30, 11:30, 1:00 |
| Mehefin / June 26 | Moody Meadows, Aberaeron | 10.00, 11.30, 1.30 |
| Gorffennaf / July 2 | Ysgol Ystalyfera | 10:00, 11:15 |
| Gorffennaf / July 3 | Theatr Glan yr Afon, Casnewydd | 10.00, 11.30, 1.30 |