Hwre, ti wedi gorffen y cwrs. Llongyfarchiadau

#cynhadledd26dysgusylfaen

4 Chwefror 2026

9.45yb – 4.30yp

(Cofrestru yn dechrau am 9:15yb)

Neuadd Reichel, Prifysgol Bangor, Ffordd Ffriddoedd, Bangor LL57 2TR

Yn addas ar gyfer: ymarferwyr Cylch Meithrin a meithrinfeydd dydd, staff Mudiad Meithrin, athrawon dysgu sylfaenol ac athrawon ymgynghorol y blynyddoedd cynnar, aelodau CWLWM a chydweithwyr yn y sector addysg feithrin.

Ymunwch â ni yn ein cynhadledd arbennig ym Mangor, Gwynedd, wrth i ni archwilio pwysigrwydd creadigrwydd mewn plentyndod cynnar, wedi’i arwain gan y fenter greadigol Dwylo Bach.

Mae Dwylo Bach yn rhaglen greadigol dan arweiniad artistiaid ar gyfer plant o enedigaeth hyd at 4 oed, a sefydlwyd a gyflwynir gan Making Sense CIO. Mae Dwylo Bach yn creu amgylcheddau rhyngweithiol synhwyraidd wedi’u cynllunio fel y gall artistiaid bach eu harchwilio, creu a bod yn chwilfrydig. Mae ein profiadau wedi’u hysbrydoli gan weithiau celf ac arddangosfeydd orielau, ac wedi eu cynllunio i fod yn synhwyraidd, chwareus, ac estyn gwahoddiadau unigryw i blant ifanc gymryd rhan mewn chwarae creadigol.

Mae Dwylo Bach yn creu amgylcheddau meithringar ac ysgogol lle gall plant ifanc ffynnu; gan osod sylfaen gref ar gyfer eu datblygiad yn y dyfodol, ac yn cefnogi teuluoedd ifanc o fewn ein cymunedau trwy greadigrwydd.

Bydd y diwrnod yn dechrau gyda’n siaradwr gwadd:

Dr Angharad Harrop

Mae Dr. Angharad Harrop yn artist dawns adnabyddus sydd wedi gwneud cyfraniadau sylweddol i’r ddealltwriaeth o sut y gall symudiad corfforol a chreadigrwydd wella datblygiad plant ifanc. Gyda bron i ddegawd o brofiad o fireinio ei hymarfer gyda babanod a phlant ifanc, mae ymchwil Dr. Harrop yn cynnig mewnwelediadau amhrisiadwy i rôl allweddol creadigrwydd wrth feithrin meddyliau ifanc.

 

Ar ôl y siaradwraig gwadd, bydd cyfle yn ystod y dydd i gymryd rhan ym mhob un o’r pedwar gweithdy. Bydd pawb yn cael cyfle i gymryd rhan ym mhob un o’r gweithdai canlynol.

Bwriad y gweithdai hyn yw cyfoethogi arferion proffesiynol addysgwyr blynyddoedd cynnar, gan ddarparu offer a syniadau arloesol i wella profiadau dysgu plant ifanc trwy greadigrwydd. Mae pob gweithdy wedi ei gynllunio’n feddylgar i ganolbwyntio ar wahanol agweddau ar ddysgu creadigol.

Nid oes angen i chi fod yn berson naturiol creadigol i fynychu; mae’r digwyddiad hwn ar agor i bawb. Ein nod yw meithrin creadigrwydd mewn amgylchedd cefnogol.

 

Gweithdy 1: Y broses sy’n cyfrif!

Nod: Annog mynegiant agored a’r gallu i arbrofi’n rhydd heb allbwn penodol mewn golwg, gan ddeall buddion gwneud hyn i ddysgu a datblygiad plant.

Yn y gweithdy hwn, bydd cyfranogwyr yn archwilio syniadau a deunyddiau amrywiol i hybu chwilfrydedd a chwarae creadigol. Bydd y pwyslais ar ganiatáu i blant fynegi eu hunain yn agored ac arbrofi heb y pwysau o gyflawni canlyniad penodol, gan wella eu profiad dysgu a chynyddu hyder.

Hwyluswyr: Eleri Jones a Donna Jones

 

Gweithdy 2: Blwch offer natur: defnyddio deunyddiau naturiol i ddatblygu creadigrwydd

Nod: Cyflwyno deunyddiau naturiol a sgiliau crefft er mwyn datblygu creadigrwydd.

Bydd y cyfranogwyr yn gweithio’n ymarferol gyda deunyddiau naturiol fel pren a chlai, gan ddefnyddio offer go iawn i reoli risgiau a hyrwyddo dysgu ymarferol. Mae’r gweithdy hwn yn pwysleisio pwysigrwydd cyfuno adnoddau naturiol i’r amgylchedd dysgu er mwyn gwella creadigrwydd.

Hwyluswyr: John Merrill a Rosie McConnell

 

Gweithdy 3: Meithrin meddwl creadigol drwy sgemâu a rhannau rhydd

Amcan: Ennyn chwilfrydedd a rhyfeddod trwy greu amgylcheddau gan ddefnyddio deunyddiau ac eitemau rhannau rhydd sy’n gwahodd plant ifanc i chwarae ac archwilio.

Bydd y sesiwn hon yn trafod sut i weithredu syniadau newydd a’r canlyniadau dysgu a gaiff eu cyflawni trwy sgemâu. Bydd cyfranogwyr yn archwilio sut i gyflwyno cysyniadau newydd o fewn lleoliadau sy’n bodoli eisoes, gan annog plant i archwilio a dysgu trwy chwarae.

Hwyluswyr: Ticky Lowe a Sioned Phillips

 

Gweithdy 4: Symudwyr creadigol

Nod: Gwahoddiadau i symud a mynegi hun fel plant bach, gan integreiddio symudiad i’r lleoliad trwy greadigrwydd, gan ddefnyddio gwrthrychau synhwyraidd i gyflwyno ac adrodd straeon.

Bydd y gweithdy hwn yn archwilio sut gall symudiad creadigol gefnogi datblygiad corfforol a lles. Bydd cyfranogwyr yn dysgu sut i gyfuno symudiad i weithgareddau’r lleoliadau, gan ddefnyddio gwrthrychau synhwyraidd i annog plant i gymryd rhan mewn adrodd straeon a pherfformio.

Hwyluswyr: Leisa Mererid a Dr Angharad Harrop

 

Mae’r dydd cyfan yn rhad ac am ddim!

Edrychwn ymlaen at eich croesawu i Fangor.

I gofrestru, cliciwch yma.

Dyddiad cau i gofrestru: 20 Ionawr 2026