Mae’r cwrs yn 18 mis o hyd ac mae disgwyl i’r dysgwr fod yn gyflogedig yn y lleoliad am o leiaf 16 awr yr wythnos. Mae’n rhaid i chi gwblhau 700 awr yn ystod y 18 mis.
Bydd disgwyl i chi fynychu gweithdy ddwywaith y mis am y naw mis cyntaf, sy’n golygu 18 gweithdy dros hyd y cwrs. Bydd y gweithdai yn gyfuniad o rai rhithiol a rhai wyneb yn wyneb.
Mae’n rhaid i chi gael eich cyflogi mewn Cylch Meithrin, Meithrinfa Ddydd Cyfrwng Cymraeg neu ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg. Byddwn yn cadarnhau a yw eich lleoliad yn addas ar gyfer yr hyfforddiant.
Os nad ydych yn gyflogedig mewn lleoliad yn barod, gallwn eich helpu i ddod o hyd i gyflogaeth.
Mae’n rhaid i chi fod yn gyflogedig am o leiaf 16 awr yw wythnos.
Os oes gennych blentyn sy’n mynychu’r lleoliad gwaith arfaethedig, bydd angen i chi drafod gyda’r lleoliad i ddarganfod a yw’n addas i chi wneud 16 awr yno.
Does dim angen i chi brynu unrhyw adnoddau. Byddwch yn derbyn llawlyfr CBAC / City and Guilds, llyfrau unedau o waith a chasgliad o adnoddau electroneg am ddim fel rhan o’r cwrs.
Y Gwaith
Bydd asesydd yn ymweld â’r lleoliad bob mis am ddwy awr er mwyn arsylwi ar eich ymarfer, ac asesu eich cymhwysedd i weithio gyda phlant. Ni fydd asesu ffurfiol yn digwydd tan y byddwch yn barod ar gyfer hynny.
Bydd angen i chi sefyll 3 prawf byr sy’n seiliedig ar senarios ac yna un aml-ddewis. Y rhain fydd yn dangos fod gennych y wybodaeth i weithio gyda phlant.
Iaith
Fe fydd angen i’ch Cymraeg fod yn ddigon da i fedru gweithio gyda phlant trwy gyfrwng y Gymraeg, dilyn y gweithdai yn Gymraeg a sefyll profion yn y Gymraeg.
Lleoliad
Bydd rhaid cael cydweithrediad y lleoliad i fynychu’r diwrnodau hyfforddiant a’r profion.
- Arweinydd Cylch Meithrin
- Cynorthwy-ydd Cylch Meithrin
- Rheolwr Meithrinfa
- Dirprwy Rheolwr Meithrinfa
- Cynorthwy-ydd Meithrin, Meithrinfa
- Cynorthwy-ydd Cyfnod Sylfaen
- Arweinydd Clwb Ar Ôl Ysgol
- Cynorthwy-ydd Clwb Ar Ôl Ysgol
- Cynorthwy-ydd Dosbarth Ysgol Gynradd
Mae’r broses o asesu’r cymhwyster hwn yn gofyn am waith partneriaeth agos rhwng y lleoliad a’r asesydd.
Bydd angen i’r person sydd â chyfrifoldeb dros y dysgwr yn y lleoliad gynnal cyfarfodydd cynnydd yn rheolaidd gyda’r dysgwr a’r asesydd. Bydd y cyfarfodydd hyn yn cael eu cofnodi a’u gwirio’n fewnol. Mae’n bwysig bod y lleoliad yn helpu i sicrhau bod y broses asesu yn mynd yn esmwyth, a bod taith y dysgwr drwy’r broses yn ddidrafferth.
Bydd cyfrifoldeb ar y lleoliad i gyfrannu tuag at bortffolio’r dysgwr. Bydd hyfforddiant llawn yn cael ei gynnig i bob lleoliad ar yr elfen hyn.
Mae’r cwrs yn 24 mis o hyd ac mae disgwyl i’r dysgwr fod yn gyflogedig yn y lleoliad am o leiaf 16 awr yr wythnos.
Bydd disgwyl i chi fynychu cyfres o weithdai yn ystod y 24 mis. Bydd gweithdy yn cael ei gynnal yn rhithiol ddwywaith y mis.
Mae’r cymhwyster yn addas i ddysgwr sydd mewn rôl arwain a rheoli o fewn Cylch Meithrin, Meithrinfa Ddydd neu Ysgol Gynradd Cyfrwng Cymraeg.
Os ydych chi’n gweithio mewn Ysgol Gynradd Cyfrwng Cymraeg bydd yn rhaid i chi fod yn Gynorthwyydd Lefel Uwch.
Os nad ydych mewn cyflogaeth yn barod ni fyddwch yn gallu astudio’r cymhwyster yma.
Os oes gennych blentyn sy’n mynychu’r lleoliad gwaith arfaethedig, bydd rhaid i chi drafod gyda’r lleoliad i sicrhau ei fod yn addas i chi wneud eich 16 awr yn y lleoliad.
Byddwch yn derbyn llawlyfr City & Guilds, llyfrau unedau o waith a chasgliad o adnoddau electroneg i gyd yn rhad ac am ddim.
Yn rhan o’r cymhwyster yma byddwch yn astudio’r cymhwyster Lefel 4 Paratoi i Arwain a Rheoli Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant yn gyntaf cyn symud ymlaen i astudio’r cymhwyster Lefel 5 Arwain a Rheoli Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant. Ar ddiwedd y 24 mis byddwch yn Ymarferydd Lefel 5 cymwys.
Bydd angen i chi gwblhau:
- Project sy’n cynnwys cyfres o dasgau
- Portffolio o dystiolaeth
- Project Busnes
- Trafodaeth broffesiynol
Bydd asesydd yn ymweld â’r lleoliad bob mis am ddwy awr. Yn ystod yr amser hwn bydd yn arsylwi ar eich ymarfer yn rheoli ac arwain pobl yn eich lleoliad gwaith, gweithio gyda nhw, er mwyn gweithredu eich prosiect yn llwyddiannus.
Iaith
Bydd angen i’ch Cymraeg fod digon da i allu gweithio efo plant trwy gyfrwng y Gymraeg, dilyn y gweithdai yn Gymraeg a chwblhau’r asesiadau yn Gymraeg.
Mae’r broses o asesu’r cymhwyster hwn yn gofyn am waith partneriaeth agos rhwng y lleoliad a’r asesydd.
Bydd angen i’r person sydd â chyfrifoldeb dros y dysgwr yn y lleoliad, gynnal cyfarfodydd cynnydd yn rheolaidd gyda’r dysgwr a’r asesydd. Bydd y cyfarfodydd yma’n cael eu cofnodi a’u gwirio’n fewnol. Mae’n bwysig bod y lleoliad yn helpu i sicrhau bod y broses asesu yn rhedeg yn esmwyth, a bod taith y dysgwr drwy’r broses yn ddidrafferth. Bydd cyfrifoldeb ar y lleoliad i gyfrannu tuag at bortffolio’r dysgwr.
Bydd yr asesydd yn ymweld â’r lleoliad bob mis am ddwy awr. Yn ystod yr amser hwn bydd yn arsylwi ar ymarfer y dysgwr yn rheoli ac arwain pobl yn y lleoliad gwaith, gweithio gyda nhw, er mwyn gweithredu’r project yn llwyddiannus.
Telir y swm o tua £1,000 – £1,500 mewn un taliad cyn diwedd mis Mawrth i leoliadau ymgeiswyr llwyddiannus
Argymhellir fod y swm yn cael ei ddefnyddio:
- I gyfrannu tuag at Gyflog y dysgwr
- I dalu staff ychwanegol tra bod y dysgwr yn mynychu hyfforddiant yn ystod y dydd
- I dalu’r dysgwr i gwblhau gwaith fin nos
Cedwir yr hawl i ofyn am y grant yn ôl os fydd y dysgwr yn tynnu allan o’r cwrs.