Mae amddiffyn plant rhag camdriniaeth, niwed ac esgeulustod yn gyfrifoldeb ar bob ymarferydd – staff, aelod pwyllgor neu wirfoddolwr – yn y Cylch Meithrin. Mae polisïau diogelu gan bob Cylch Meithrin sydd yn egluro sut mae’r Cylch yn ceisio sicrhau fod pob plentyn yn ein gofal yn ddiogel, yn fodlon ac yn ffynnu.

Mae’r Cylch yn hyrwyddo awyrgylch ac ethos sy’n galluogi plant, staff a gwirfoddolwyr i fynegi yn agored unrhyw ofidiau sydd ganddynt. Mae’r Polisi Diogelu Plant ein cylchoedd a’r gweithdrefnau yn cydymffurfio â Gweithdrefnau Diogelu Cymru.

OS OES UNRHYW AMHEUAETH BOD PLENTYN YN DIODDEF NEU MEWN RISG O DDIODDEF UNRHYW NIWED DYLID CYFEIRIO’R PLENTYN AT Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL YN SYTH

Mae Polisi Diogelu Plant, Pecyn Polisïau a Chanllawiau Diogelu Oedolion a holl bolisïau eraill Mudiad Meithrin ar ein mewnrwyd ynghyd ag adnoddau eraill defnyddiol fel Siart Lif Diogelu Plant a Ffurflen Cofnodi Pryder am Blentyn.

Polisïau a Hyfforddiant

  • Rhaid i’r pwyllgor sicrhau fod POB aelod o staff yn derbyn hyfforddiant Amddiffyn Plant. Mae’n rhaid diweddaru’r hyfforddiant bob tair blynedd.
  • Rhaid i bob lleoliad gael Swyddog Diogelu a Dirprwy Swyddog Diogelu (fel arfer Arweinydd ac Unigolyn Cyfrifol / Person Cofrestredig) sef pwynt cyswllt ar gyfer delio â phryder am ddiogelwch plentyn.
  • Rhaid sicrhau fod rhieni yn ymwybodol o bolisi Diogelu Plant y cylch. Mae’n arfer dda i rieni arwyddo eu bod wedi darllen y polisi (ffurflen cadarnhau i rieni ar fewnrwyd Mudiad Meithrin).