Categorïau
Dyma gyflwyniad ar faterion yn ymwneud â Phensiynau y Gweithle a Dyletswyddau Cofrestru Awtomatig.
I ddechrau’r cyflwyniad, cliciwch yma.
- Mae pensiwn yn rhywbeth sydd yn cael ei drefnu gan y cyflogwr, ac mae’n ffordd ychwanegol o annog unigolion i arbed arian ar gyfer eu hymddeoliad yn y dyfodol.
- Gyda chynlluniau pensiwn mae canran penodol o gyflog y staff yn cael ei roi mewn i’w ‘pot’ pensiwn personol bob tro caent eu talu, ac mae’r cyflogwr hefyd yn cyfrannu canran penodol ar ben hyn.
- Y llywodraeth sy’n penderfynu beth yw’r lleiafswm y mae modd cyfrannu – mae modd i gyflogwyr gynnig cynlluniau mwy hael os ydynt yn dymuno rhoi buddion ychwanegol i’w staff.
- O dan y ddeddf Pensiynau 2008, bydd yn rhaid i bob cyflogwr yn y DU gofrestru staff penodol ar gynllun pensiwn yn y gweithle a chyfrannu tuag ato. Y term am hyn ydy ‘cofrestru awtomatig’. Os ydych chi’n cyflogi o leiaf un person rydych yn gyflogwr, ac mae angen i chi gyflawni dyletswyddau cyfreithiol penodol. Cyflogwyr | The Pensions Regulator
- Y Rheoleiddiwr Pensiynau (The Pensions Regulator) yw’r corff cyhoeddus sy’n diogelu pensiynau y gweithle yn y Deyrnas Unedig. Maent yn gweithio gyda chyflogwyr a’r rhai hynny sy’n rhedeg pensiynau er mwyn i bobl gynilo’n ddiogel ar gyfer eu hymddeoliad.
- Mae’r Rheoleiddiwr Pensiynau wedi cyhoeddi canllaw gwybodaeth hanfodol fanwl i gyflogwyr am eu dyletswyddau cofrestru awtomatig: Yr arweiniad hanfodol ar gyfer cofrestru awtomatig.pdf
- Pwrpas y cyflwyniad yma yw rhoi trosolwg i chi o’r dyletswyddau. Mi ddylech gyfeirio at wefan y Rheoleiddiwr Pensiynau i gael y wybodaeth lawn am eich dyletswyddau.
- Mae’n rhaid i bob cyflogwr gydymffurfio gyda gofynion cofrestru awtomatig. Mae gan wefan y Rheoleiddiwr Pensiynau wybodaeth, canllawiau a thempledi i helpu cyflogwyr newydd ddysgu beth ydi eu dyletswyddau a sut i gydymffurfio gyda nhw.
- Mae holiadur ar y wefan i alluogi cyflogwyr newydd i ddeall eu dyletswyddau. I’r rhan fwyaf o gyflogwyr newydd mi fydd angen cymryd 4 cam:
» Dewis cynllun pensiwn
» Darganfod pwy y dylech ei roi ar gynllun pensiwn
» Ysgrifennu at eich gweithwyr
» Cwblhau Datganiad Cydymffurfio
- Os yw gweithiwr rhwng 22 oed ac oedran pensiwn y wladwriaeth, â’u bod yn ennill £833 y mis (£192 yr wythnos) neu’n fwy, mae’n rhaid eu cofrestru’n awtomatig i gynllun pensiwn.
- Nodwch fod modd i unrhyw un optio mewn, er nad ydynt efallai’n cwrdd â’r meini prawf ar gyfer cofrestru awtomatig.
- Does dim rhaid i’r cyflogwr wneud cyfraniad os yw’r gweithiwr sy’n optio mewn yn ennill llai na £520 y mis (£120 yr wythnos) oherwydd dyma’r trothwy ‘Enillion Cymwys’.
- I’r rhan fwyaf o gyflogwyr, y cwmni sy’n gweinyddu’r gyflogres fydd yn cymryd cyfrifoldeb ar gyfer asesu gweithwyr, cyfrifo cyfraniadau, talu cyfraniadau i’r cynllun pensiwn a gyrru llythyrau i’r gweithwyr – gwiriwch gyda’ch cwmni cyflogres yn union beth maent yn gwneud ar eich rhan chi fel cyflogwr.
- Isafswm y cyfraniadau mae modd eu cyfrannu ers Ebrill 2019 yw 5% gan y cyflogai a 3% gan y cyflogwr, gyda’r cyfraniadau yma wedi’w selio ar eu ‘Enillion Cymwys’ (‘Qualifying Earnings’).
- Enillion Cymwys (‘Qualifying Earnings’) = rhwng£520 a £4,189 y mis
- Enghraifft: Os mae unigolyn yn ennill cyflog gros o £1,200 am y mis, yna y cyfraniadau pensiwn am y mis hwnnw bydd:» Cyfraniad Cyflogai: (£1,200 – £520) x 5% = £34.00
» Cyfraniad Cyflogwr: (£1,200 – £520) x 3% = £20.40
- (Noder mai dyma’r isafswm sydd rhaid talu. Mae modd gwneud cyfraniadau ar sail cyfanswm cyflog gros misol, ond byddai’r gost pensiwn yma yn amlwg yn uwch.)
- Nodwch fydd y llywodraeth yn newid y canrannau yma o dro i dro, felly mae’n bwysig cadw llygad allan am unrhyw gyhoeddiadau ynglyn â hyn. Byddwn yn diweddaru unrhyw ganran neu drothwy yn y pwynt pwer ‘Graddfeydd’ yn flynyddol, neu gallwch weld y trothwyon diweddaraf ar wefan y Rheoleiddiwr Pensiynau: Cyfrannu at eich cynllun pensiwn
- Talu cyfraniadau pensiwn i’r cwmni pensiwn bob tro mae staff yn cael eu talu.
- Asesu unrhyw staff newydd ar ddechrau cyflogaeth i weld a ydynt yn gymwys a rhoi gwybod iddynt am eu hawliau.
- Ail-asesu pawb bob 3 mlynedd a gyrru’r llythyrau priodol.
- Asesu parhaus – asesu unrhyw staff oedd ddim yn gymwys ar ddechrau cyflogaeth (oherwydd oed neu gyflog) bob tro caent eu talu i weld os ydynt yn dod yn gymwys ac angen eu cofrestru’n awtomatig.
- Eich dyletswyddau parhaus
- Ail-gofrestru ac ail-ddatgan
- Osgoi gwallau cyffredin e.e. defnyddio trothwyon enillion anghywir, camgymeriadau mewn cyfathrebu gyda staff, camgyfrifo cyfraniadau i staff sy’n derbyn tâl mamolaeth Osgoi gwallau cyffredin yn nyletswyddau pensiwn yn y gweithle
