Wyt ti’n meddwl am wirfoddoli ar bwyllgor Cylch Meithrin, wyt ti’n gwirfoddoli eisoes neu eisiau sefydlu pwyllgor newydd sbon? Rydym yma i dy gefnogi.
Mae’r Cylch yn rhoi llu o brofiadau addysgol a llawn hwyl i blant a’u teuluoedd trwy’r Gymraeg sy’n gwneud gwahaniaeth i blant bach dy ardal.
Rydym yn croesawu ac yn annog pobl o bob cefndir i fod yn rhan o bwyllgor y cylch a does dim rhaid i ti fod yn rhiant dy hun i fod yn aelod.
Mae modd i ti gofrestru diddordeb mewn gwirfoddoli ar bwyllgor Cylch Meithrin drwy linc yma.