Erbyn hyn, mae mwy o bobl nac erioed o’r blaen yn siopa ar-lein yn hytrach na mynd allan i siopau’r stryd fawr, oeddech chi’n sylweddoli bod modd codi arian ar ein cyfer drwy siopa ar-lein mewn dau ffordd gwahanol?
  1. Mae gennym siop ar lein o’r enw Siop Dewin a Doti sy’n gwerthu cynnyrch Dewin a Doti. Drwy siopa gyda Siop Dewin a Doti rydych yn cefnogi ein gwaith.
  2. Rydym hefyd wedi cofrestru gyda gwefan ‘Easyfundraising sy’n borth siopa ar gyfer llawer o siopau sy’n rhoi cyfraniad yn ôl i elusennau. 

Gallwch roi hwb i’n hymdrechion codi arian drwy gofrestru gyda Easyfundraising a’n dewis fel yr elusen yr ydych am ei chefnogi. Bob tro y byddwch chi’n defnyddio’r porth hwn i fynd i siopa mewn un o gannoedd o siopau adnabyddus ar-lein, byddwn yn derbyn cyfraniad ariannol gan y siop. Cliciwch yma am gyfarwyddiadau ar sut i fynd ati i greu cyfrif.