Mae Cwlwm yn uno pum sefydliad blaenllaw gofal plant Cymru i ddarparu gwasanaeth integredig dwyieithog sy’n sicrhau’r canlyniadau gorau posibl ar gyfer plant a theuluoedd ar draws Cymru yn unol â dull ‘system-gyfan’ Llywodraeth Cymru.

Arweinir y prosiect gan Mudiad Meithrin mewn partneriaeth â Blynyddoedd Cynnar Cymru, Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs, Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd (NDNA Cymru) a PACEY Cymru.

 

 

Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs

 

Mudiad Meithrin

 

 

NDNA

 

 PACEY

 

Cwlwm

 

 

Blynyddoedd Cynnar Cymru

 

Mae partneriaid Cwlwm yn gweithio’n agos gyda’i gilydd ac yn cynorthwyo Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gan deuluoedd ledled Cymru fynediad at ofal plant a chyfleoedd chwarae fforddiadwy, o ansawdd a hyblyg sy’n diwallu eu hanghenion.