Arweinydd Clwb ar ôl ysgol Ffrindiau Bach yr Eos
CeredigionGweler y swydd ddisgrifiad am fwy o fanylion am y swydd.
Cyfeiriad: Ffrindiau Bach yr Eos, Ysgol Llwyn yr Eos, Penparcau, Aberystwyth, SY23 1SH
Am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â:
Eirwen Hughes, Dirprwy Reolwr Talaith y De-Orllewin a'r Canolbarth
Rhif Ffôn: 01970 639639
E-bost: eirwen.hughes@meithrin.cymru
Gwneud Cais:
Gellir gwneud cais am y swydd drwy lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a ffurflen cydraddoldeb ac amrywiaeth, gweler isod.
Dychwelwch y ffurflenni yma at adnoddaudynol@meithrin.cymru
Cyflog: £13.71 yr awr
Oriau: Dydd Llun a Dydd Mawrth 3.00 – 5.15pm
Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch. Oherwydd hyn, ynghyd â diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, gwrywaidd ac o’r Mwyafrif Byd-eang.
Dyddiad Cau: 17/08/2026