Lleoliad: 21A COMMERCIAL STREET , NELSON
Mae’r Cylch Meithrin yn chwilio am gynorthwyydd dibynadwy ac egnïol sy’n mwynhau gweithio fel rhan o dîm i ymuno â staff y cylch. Rhaid bod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn ddysgwr sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg. Gofynnir am brofiad a chymhwyster blynyddoedd cynnar cydnabyddedig ar o leiaf Lefel 2 i ofalu am blant
Mae'r Cylch Meithrin yn ehangu ei oriau i'r prynhawniau ac rydym yn chwilio am unigolion i weithio yn ôl yr angen. Mae posibilrwydd uchel y daw oriau cyson ar gael wrth i'r Cylch ehangu. Rhaid llenwi ffurflen gais i wneud cais am y rôl hon ni allwn dderbyn CV.
Cyflog: £12.21 yr awr
Oriau: Oriau hyblyg pan fo angen
Gofynnir am brofiad a chymhwyster blynyddoedd cynnar cydnabyddedig ar lefel 2 neu uwch.
Person cyswllt am ragor o wybodaeth a manylion cysylltu : Ceri Preston – cmnelson-committee@outlook.com
Dyddiad Cau: 03/06/2025
Diwrnod | Bore | Prynhawn |
Dydd Llun | 8.30-12.30 | |
Dydd Mawrth | 8.30-12.30 | |
Dydd Mercher | 8.30-15.30 | |
Dydd Iau | 8.30-12.30 | |
Dydd Gwener | 8.30-12.30 |