Yn ôl i'r rhestr swyddi
Gwybodaeth Gyffredinol

Lleoliad: YSGOL GYMRAEG MORSWYN , FFORDD CYTTIR , CAERGYBI. LL65 2PU

Rydym yn chwilio am ymarferydd gofal plant gofalgar, brwdfrydig a dibynadwy i ymuno â’n tîm, gan ofalu am blant rhwng 2 ac 11 oed.

Rhaid bod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn ddysgwr sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg.

Mae’r rôl yn golygu darparu amgylchedd diogel, meithringar a symbylol lle gall plant ddysgu, chwarae a datblygu.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi trefniadau dyddiol y plant, yn trefnu gweithgareddau hwyliog a deniadol, yn annog ymddygiad cadarnhaol, ac yn hyrwyddo datblygiad emosiynol, cymdeithasol a chorfforol y plant.

Manylion y Swydd

Cyflog: Isafswm cyflog

Oriau: 33 awr dros 5 diwrnod / Trwy gydol y flwyddyn

Manylion cymwysterau

Gofynnir am brofiad a chymhwyster blynyddoedd cynnar cydnabyddedig ar o leiaf Lefel 2 i ofalu am blant.

Gwybodaeth Ychwanegol

Manylion cyswllt ar gyfer mwy o wybodaeth ynglyn a’r swydd:

Miss Stacey Lloyd

Ebost: mirimorswyn@gmail.com Rhif ffon: 01407 765781

Dyddiadau Pwysig

Dyddiad Cau: 04/12/2026

Manylion cyswllt Arweinydd: STACEY LLOYD 01407 765781 mirimorswyn@gmail.com
Cyfeiriad YSGOL GYMRAEG MORSWYN FFORDD CYTTIR CAERGYBI LL65 2PU
Math o Gylch Cylch Meithrin
Oriau agor
Diwrnod Bore Prynhawn
Dydd Llun 8.00-17.30
Dydd Mawrth 8.00-17.30
Dydd Mercher 8.00-17.30
Dydd Iau 8.00-17.30
Dydd Gwener 8.00-17.30