Gweithiwr Cefnogi Anghenion Ychwanegol – Cylch Meithrin Dechrau’n Deg Gwdihŵ, Brynithel
Blaenau GwentYdy’r rôl hon yn addas i chi?
Bydd y rôl hon yn cynnwys:
Cynnig cymorth a chefnogaeth briodol er mwyn sicrhau bod plentyn ag anghenion ychwanegol yn cael yr un cyfleoedd â’i gyfoedion i fwynhau ac elwa o holl weithgareddau’r Cylch.
Sicrhau bod plentyn ag anghenion ychwanegol yn cael ei gynnwys yn llawn ym mhob agwedd o waith y Cylch, gan addasu adnoddau, amgylcheddau a gweithgareddau lle bo angen.
Rydym yn chwilio am rywun:
Sy’n garedig, brwdfrydig ac ymroddedig.
Sy’n credu ym mhwysigrwydd cynhwysiant a sicrhau cyfleoedd cyfartal i bob plentyn.
Sy’n mwynhau gweithio gyda phlant bach ac sydd â diddordeb mewn cefnogi eu datblygiad a’u lles.
Sydd â natur ofalgar a’r gallu i chwarae, dysgu a meithrin perthnasoedd cadarnhaol.
Sy’n amyneddgar, yn gefnogol ac yn sensitif i anghenion unigol plant.
Sy’n gallu gweithio’n dda fel rhan o dîm ac yn meddu ar sgiliau cyfathrebu da.
Sydd eisiau gweithio mewn amgylchedd Cymraeg, croesawgar a llawn cariad.
Lleoliad: Cylch Meithrin Dechrau'n Deg Gwdihŵ, Brynithel
Am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â: Ceri Preston, Dirprwy Reolwr Talaith y De Ddwyrain
Rhif Ffôn: 07494491884
E-bost: ceri.preston@meithrin.cymru
Gwneud Cais:
Gellir gwneud cais am y swydd drwy lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a ffurflen cydraddoldeb ac amrywiaeth, gweler isod.
Dychwelwch y ffurflenni yma:
Cyflog: £25,564.50 pro rata (£13.11 yr awr)
Oriau: 16 awr yr wythnos
Cymhwyster proffesiynol priodol mewn blynyddoedd cynnar / gofal plant ar o leiaf lefel 3
Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch. Oherwydd hyn, ynghyd â diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, gwrywaidd ac o’r Mwyafrif Byd-eang.
Dyddiad Cau: 31/08/2026
| Diwrnod | Bore | Prynhawn |
| Dydd Llun | 9.00-14.45 | |
| Dydd Mawrth | 9.00-14.45 | |
| Dydd Mercher | 9.00-14.45 | |
| Dydd Iau | 9.00-14.45 | |
| Dydd Gwener | 9.00-14.45 |