Lleolir y swydd yn un o swyddfeydd Mudiad Meithrin (Aberystwyth, Caerdydd, Cross Hands, Llangefni neu Wrecsam) ond bydd disgwyl i’r person ymweld â’r brif Swyddfa yn Aberystwyth yn rheolaidd ac i deithio dros Gymru.
Dyddiad cychwyn: 11.05.2026
Am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â: Rhys Jones, Pennaeth Trefniadaeth a Rheolwr Gweinyddiaeth, Aelodaeth a Busnes
Rhif Ffôn: 01970 639639
E-bost: rhys.jones@meithrin.cymru
Gwneud Cais:
Gellir gwneud cais am y swydd drwy lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a ffurflen cydraddoldeb ac amrywiaeth, gweler isod.
Dychwelwch y ffurflenni yma at adnoddaudynol@meithrin.cymru
Cyflog: MM33 – MM42 £40,460 - £50,449 y.f.
Oriau: 37.5 awr yr wythnos
Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch. Oherwydd hyn, ynghyd â diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, gwrywaidd ac o’r Mwyafrif Byd-eang.
Dyddiad Cau: 18/02/2026
Dyddiad Cyfweliad: 24/02/2026