Yn ôl i'r rhestr swyddi
Gwybodaeth Gyffredinol

Lleoliad: Cwm Cudyll Fach, Manordeilo, Llandeilo, United Kingdom, SA19 7BR

Mae Meithrinfa Twts Tywi yn chwilio am reolwr profiadol ac angerddol i oruchwylio gweithrediadau dyddiol. Mae'n feithrinfa wobrwyol gyfrwng Cymraeg.

Bydd Rheolwr y Feithrinfa yn gyfrifol am sicrhau bod pob plentyn yn y lleoliad yn derbyn gofal o ansawdd uchel, yn cael eu cadw'n ddiogel, ac yn ffynnu mewn amgylchedd ysgogol sydd wedi'i gynllunio'n dda ac yn cael ei yrru gan lais y plentyn.

Bydd gan yr ymgeisydd angerdd delfrydol dros ofal plant, sgiliau arweinyddiaeth gryf a'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol â staff a rhieni i annog eu mewnbwn a’u cyfranogiad.

 

Manylion y Swydd

Cyflog: Cyflog cystadleuol yn dibynnu ar gymwysterau a phrofiad

Oriau: 40 awr yr wythnos

Manylion cymwysterau

Gofynnir am gymhwyster blynyddoedd cynnar cydnabyddedig addas ar Lefel 3 neu uwch ynghyd â phrofiad perthnasol

Gwybodaeth Ychwanegol

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â ni ar 01550 779039 neu ebostiwch eich wybodaeth i info@twtstywi.co.uk

Dyddiadau Pwysig

Dyddiad Cau: 13/03/2026

Manylion y Cylch

MEITHRINFA TWTS TYWI

Manylion cyswllt Arweinydd: CARYL THOMAS 01550 779039 info@twtstywi.co.uk
Cyfeiriad CWM CUDYLL FACH MANORDEILO LLANDEILO SA19 7BR
Math o Gylch Day Nursery
Oriau agor
Diwrnod Bore Prynhawn
Dydd Llun 8.00-18.00
Dydd Mawrth 8.00-18.00
Dydd Mercher 8.00-18.00
Dydd Iau 8.00-18.00
Dydd Gwener 8.00-18.00