Yn ôl i'r rhestr swyddi

Swyddog Cefnogi Busnes (Cylchoedd Ceredigion)

Ceredigion
Gwybodaeth Gyffredinol

Gweler y swydd ddisgrifiad am fwy o fanylion am y swydd.

 

Lleoliad: Ar leoliad/gartref neu o un o swyddfeydd y Mudiad (Aberystwyth / Radur / Llangefni / Cross Hands / Rhuthun).

 

Am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â:

Leanne Marsh, Pennaeth Adran Datblygu Gwasanaethau

Rhif Ffôn: 01970 639639

E-bost: leanne@meithrin.cymru 

 

Gwneud Cais:

Gellir gwneud cais am y swydd drwy lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a ffurflen cydraddoldeb ac amrywiaeth, gweler isod.

Dychwelwch y ffurflenni yma:

adnoddaudynol@meithrin.cymru

Manylion y Swydd

Cyflog: MM15 (£22,902) – MM20 (£26,538) pro rata. Gwir gyflog ar sail 15 awr yr wythnos (tymor ysgol) : £7,892.38 - £9,145.40

Oriau: 15 awr yr wythnos, tymor ysgol yn unig. Cytundeb penodol hyd at 31 Rhagfyr 2024.

Gwybodaeth Ychwanegol

Caiff y prosiect hwn ei ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gyda chymorth Cynnal y Cardi gan Gyngor Sir Ceredigion.

 

     

 

Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch. Oherwydd hyn, ynghyd â diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (DALIE/BAME) a gwrywaidd.

Dyddiadau Pwysig

Dyddiad Cau: 30/04/2024