Swyddog Iaith Croesi’r Bont Cerdigion a De Powys (Cyfnod Mamolaeth)
Ceredigion, PowysYdych chi’n angerddol dros y Gymraeg ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth go iawn?
Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig, ysbrydoledig ac ymroddedig i ymuno â darpariaethau Mudiad Meithrin er mwyn arwain ar ymestyn a datblygu sgiliau ieithyddol staff a phlant. Bydd y rôl yn canolbwyntio ar ddarparu hyfforddiant iaith o safon, cynnig mentora cefnogol, ac arwain ar weithredu cynllun Croesi’r Bont – rhaglen drochi iaith arloesol ar gyfer Cylchoedd Meithrin.
Dyma gyfle cyffrous i gyfrannu’n uniongyrchol at gryfhau’r Gymraeg yn ein cymunedau ac i gefnogi cenhedlaeth newydd o siaradwyr hyderus.
Rydym yn chwilio am unigolyn sy’n:
-
Frwd dros hyrwyddo’r Gymraeg a’i datblygiad
-
Meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol ar wahanol lefelau
-
Yn gallu ysbrydoli, cefnogi ac arwain eraill
-
Yn gweithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm
Os ydych yn barod i gymryd cam nesaf cyffrous yn eich gyrfa ac i chwarae rhan allweddol yn natblygiad y Gymraeg yn y blynyddoedd cynnar, hoffem glywed gennych.
Am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â:
Lou Stevens Jones, Rheolwr Croesi'r Bont
Rhif Ffôn: 07966 313609
E-bost: lou.stevens.jones@meithrin.cymru
Gwneud Cais:
Gellir gwneud cais am y swydd drwy lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a ffurflen cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Dychwelwch y ffurflenni yma:
- dros e-bost at: adnoddaudynol@meithrin.cymru
Cyflog: MM15 – MM20: £24,200 – £27,835. Bydd cynnydd i werth bandiau cyflog hyn o 1.4.2026, ond nid yw’r wybodaeth yma wedi’i gyhoeddi eto.
Oriau: 37.5 awr yr wythnos
Gweler swydd ddisgrifiad
Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch. Oherwydd hyn, ynghyd â diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, gwrywaidd ac o’r Mwyafrif Byd-eang.
Dyddiad Cau: 11/03/2026
Dyddiad Cyfweliad: 18/03/2026